
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Gruffydd Meredith
Awdur
llyfr am hypocondriac alcoholaidd
Dydd Iau, Ionawr 24, 2002 |
•
Enw:
Gruffydd Meredith
• Beth yw eich gwaith?
Cemegydd bydenwog
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Twtio ychydig bach ar y ty.
• O ble’r ydych chi¹n dod?
Ardal Y Bala
• Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Yn y cut hel ticeds sydd ar y Cob, Porthmadog.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Dwi’n dal i ddysgu.
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig
amdano.
O ni isio adlewyrchu y panic oedd pobl yn deimlo ar ddiwedd y
ganrif/mileniwm dwytha oedd yn cydfynd a’n meddyliau i a jist trio
adlewyrchu pa mor rhyfedd ma bywyd a pobl yn gallu bod ac i lle mae
dynoliaeth yn mynd?
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Y
Testament Newydd ac Anturiaethau Twm y Byji.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Barti Ddu gan T. Llew Jones. Anturiaethau Dafydd ap Siencyn.
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Oregano.
• Pwy yw eich hoff awdur?
William Sutcliffe/ Gruffydd Meredith.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch? Oes
• Pwy yw eich hoff fardd?
Zak Ferraro.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Mynnwch gael gwasanaeth da mewn siopau.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Pam bo ni’n cael ein labelu’n genedlaetholwyr ffasgaidd budr jist
co de ni isio hunan lywodraeth i Gymru?
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Teulu’r Mans.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Ail gylchwch eich sbwriel.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at
y gwir?.
Dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Codi’n gynnar.
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Dawnus
Anhygoel
Twat.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich
hunan?
Fy nhuedd i gael ffantasis amdan Margaret Thatcher ar nosweithiau
unig.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf
a pham?
Fidel Castro.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Dwi’n aros iddo fo ddigwydd.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Byswn yn licio gofyn i George Bush, Saddam Hussein a Putin ddod
am sesh i’r Bala a sotio’i s**t nhw i gyd allan.
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Siwrne loc in ffordd gefn bump y bore.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Brithyll gwyllt.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Ynni naturiol i Gymru i gyd, rwan.
• Pa un yw eich hoff liw?
T-lith.
• Pa liw yw eich byd?
E?
• Beth sy’n eich rhoi mewn tymer ddrwg beth cyntaf yn y bore?
Codi’n gynnar.
• A beth sy’n eich rhoi mewn tymer dda?
Pan mae genai bres i fyta.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf banio Twm Morys o’r teledu.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Na, dim rili.
• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu
waith llenyddol arall?
Chwythwch fyny Pobl y Cwm rwan. Mae’n embarasment i Gymru.
• Darllenwch
yn awr am Dyddiadur Alci Hypocondriac
|
 |

|