
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Emyr Davies
Golygydd
Sgorio
Dydd Iau, Ionawr 3, 2002 |
•
Enw:
Emyr Davies.
• Beth yw eich gwaith?
Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr/
Sylwebydd
.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dysgu am ddeng wythnos.
• O ble’r ydych chi¹n dod?
Yn enedigol o Lanymddyfri ond cefais fy magu ym Monymaen, Abertawe.
• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Caernarfon.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?.
Do’n ni ddim yn ddisgybl da ac yn blentyn gwrth-sefydliad, o’dd
yn gwneud ‘i ore’ glas i beidio cydymffurfio. Ond gyda threigl amser
rwyf wedi dod i werthfawrogi ymdrechion fy athrawon.
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch
ychydig amdano.
Ar ôl tair ar ddeg o gyfresi Sgorio ar S4C ro’n i’n teimlo
y byddai’n braf cael cofnod ysgrifenedig am y rhaglen.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Y Merlyn Du.
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Na.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Michael Connelly.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch? Ich und Du.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Dylan Thomas.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Do not go gently into that good night.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
You’re not quite lovers and your not quite friends after
the thrill is gone.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Rebel without a cause
C’mon Midffild
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf
at y gwir?.
Gorau Chwarae, Cyd-chwarae
• Pa un yw eich hoff air?
Ansbaradigaethus
• Pa ddawn hoffech chi ei chael? Byddai unrhyw ddawn
yn dderbyniol
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Graslon,
Amyneddgar,
Celwyddgi
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch
eich hunan? Mae’r rhestr yn hirfaith
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf
a pham?
Nelson Mandella. Mi fu’n barod i ddioddef dros ei achos a llwyddodd
i gadw ei urddas drwy’r cyfan.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Y daith lwyddiannus gyntaf i’r lleuad ac yn ôl.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth
fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Neil Armstrong.
"Wyt ti wedi cerdded ar y lleuad neu ai twyll oedd y cyfan?"
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Cerdded dros y bryn o Gwmtydu i Gei Newydd, a hynny ar ddiwrnod oer,
clir. Mae’r olygfa dros y mor i gyfeiriad Penllyn ac Eryri pan fo’r
mynyddoedd dan haenen o eira yn hynod o drawiadol.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cig moch wy a chips.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?.
Bod yng nghwmni fy nheulu a’m ffrindie a chware pump-bob-ochr.
• Pa un yw eich hoff liw?
Glas.
• Pa liw yw eich byd?
Du a Gwyn.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gwasanaeth iechyd am ddim i bawb
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Nagoes
• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel
neu waith llenyddol arall?
Tase rhywun wedi dweud ar ddechre’r tymor bod Abertawe yn mynd i ennill
Cwpan yr FA, a Chymru yn mynd i ennill Cwpan y Byd, go brin y bydden
i wedi’i goelio
• Darllenwch
yn awr am Sgorio
|
 |

|