
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Dafydd Meirion
Awdur
Pi-Ar, llyfr dychanol am fyd cysylltiadau cyhoeddus
Dydd Iau, Ionawr 3, 2002 |
•
Enw:
Dafydd Meirion
• Beth yw eich gwaith?
Cynhyrchydd ar wasanaeth rhyngrwyd y BBC
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Perchennog busnes cyhoeddi, cysodi a dylunio, partner mewn gwasg
argraffu, cynhyrchydd teledu, rheolwr cwmni cysylltiadau cyhoeddus,
rheolwr datblygu cymdeithas dai, newyddiadurwr efo’r BBC
• O ble’r ydych chi¹n dod?
Cael fy ngeni yn Y Bala; symud I Lanrug, Arfon, pan yn wyth oed.
• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr? Penygroes
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Dim felly, mwynhau’r hwyl gyda’m cyd-ddisgyblion.
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig
amdano.
Roeddwn i’n gweithio fel newyddiadurwr efo Cymry’r Byd
ac yn aml ddim yn dechrau gweithio tan ddau y pnawn. Felly, gan nad
ydwi’n da i ddim yn yr ardd neu’n gosod silffoedd mi benderfynais
fynd ati I sgwennu llyfr! Methais wneud fawr a’r syniadau cyntaf ond
mi ddaeth Pi-Ar o rywle!
Llyfr ydy o am helyntion dau’n dechrau busnes cysylltiadau cyhoeddus
yng Nghaernarfon.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Y Tebot Piws yng nghanol y 1970au. Tri llyfr coginio (dan ffugenw
wrth gwrs!)
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfrau Biggles
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Na.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Spike Milligan, Dafydd Huws, Twm Miall, Roddy Doyle.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Dyddiadur Dyn Dwad
• Pwy yw eich hoff fardd?
Fawr ddim I’w ddweud am farddoniaeth ond yn cael blas mawr ar
waith Myrddin Williams, awdur Dildo Anti Nel.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Dildo Anti Nel.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Yn Nhyn Llan mae cwrw llwyd
Mae o’n ddiod ac yn fwyd.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: The Commitments
Teledu: Ddim un yn arbennig
• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Goronwy Jones (Dyn Dwad)
Cas: Rheolwr y siop garpedi (Dyn Dwad)
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
I’r pant y rhed y dwr.
• Pa un yw eich hoff air?
Diolch.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gallu chwarae’r gitar fel Eric Clapton.
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Nid y fi ydy’r person gorau i ateb hyn.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich
hunan?
Dim yn arbennig.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Owain Glyndwr - am gadw’r fflam ynghyn.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Gunfight at OK Coral (yn edrych ar y cyrion!)
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Llywelyn ein Lliw Olaf - oedd raid iti fynd I Gilmeri?
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Drawsfynydd i’r Bala. Mi fyddai’n hoffi ymweld â’r Bala gan
fod gennyf deulu yno ac mae hi’n ffordd dda i bwyso’r droed ar y sbardun
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyri da o dy bwyta Indiaidd
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, beicio, sgwennu a mynd am beint.
• Pa un yw eich hoff liw?
Coch.
• Pa liw yw eich byd?
Melyn.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Mae gen i restr hir - fyddai dim amser gan San Steffan na’r Cynulliad.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Cymry Gwyllt y Gorllewin (Y Lolfa) am Gymry aeth I America yn
y 19eg ganrif a dod yn gowbois, dynion drwg, ymladd a’r Indiaid ac
ati; a nofel dditectif ddoniol.
Ac efallai llyfr cerdded arfordir Mon.
• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Wedi i mi ennill miliwn o bunnau o fy nofel gyntaf mi es ati i sgwennu
un arall.
• Darllenwch
yn awr am Pi-Ar
|
 |

|