
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Lyn Ebenezer
Cyflwynydd teledu ac awdur
Dydd Iau, Rhagfyr 6, 2001
|
• Enw:
Lyn Ebenezer
• Beth yw eich gwaith?
Cyflwyno P'nawn Da ar S4C Digidol.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Newyddiadura a chyflwyno Hel Straeon.
• 0 ble'r ydych chi’n dod?
Pontrhydfendigaid
• Lle’r ydych chi'n byw yn awr?
Aberystwyth
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Dyddiau ysgol oedd y dyddiau gorau.
• Pa lyfrau rydych chi wedi eu hysgrifennu?
Noson yr Heliwr (nofel), Dim Heddwch? (nofel), I
Ddweud yr Hanes (Hanes Meic Stevens), Merch Fach Ddrwg
(Storïau Arswyd) a mwy.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf gyda hiraeth.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Steven King / James Lee Burke
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Big Spur - Henry Miller
• Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Cefn Cwm Bychan - Alun Llywelyn Williams
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"I gofio am y pethau anghofiedig" - Waldo
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm - The Last Picture Show
Rhaglen deledu - Frazier
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad - John Breimar - Wil Sam
Cas gymeriad - Pennywise yn It, Stephen King.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Cas gwr nas caro'r wlad a'i mago.
• Pa un yw eich hoff air?
Tangnefedd
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Cynganeddu
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Rwdlyn,
Bodlon,
Breuddwydiol.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Rhy feddal.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf
a pham?
Iolo Morganwg am iddo fod yn freuddwydiwr adeiladol.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Ymgyrchu gyda Merched Beca.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Goleiath
"Shwd mae dy ben di erbyn hyn?"
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
I Ddulyn am mai Dulyn yw canol y byd.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Corn bîff hash
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, gwrando ar Bob Dylan, Tom Waits a Willie Nelson.
• Pa un yw eich hoff liw?
Coch
• Pa liw yw eich byd?
Gwyn
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Seidir am ddim ar gôst y Gwasanaeth Iechyd.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, cyfrol o ysgrifau ar wahanol gymeriadau.
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu
waith llenyddol arall?
Teimlai fy ngheg mor fudr â thrôns cneifiwr, a'r unig
ateb oedd peint o Strongbow oer, clir a balmaidd.
Ewch
i ddarllen adolygiad o'r gyfres Dal y Gannwyll a Cofion
Cynnes.
|
 |

|