
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Sonia Edwards
Awdur nofel y mis, Y
Goeden Wen
Dydd Iau, Tachwedd 22, 2001
|
• Enw:
Sonia Edwards
• Beth yw eich gwaith?
Athrawes Gymraeg
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweithio mewn siop tra yn yr ysgol yn ystod fy arddegau.
• 0 ble'r ydych chi’n dod?
Cemaes, Môn.
• Lle’r ydych chi'n byw yn awr?
Llangefni
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, at ei gilydd
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig
amdano.
Chwedl Kate Roberts 'RHAID sgwennu neu fygu'.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Chwe nofel, tair cyfrol o straeon byrion ac un gyfrol o farddoniaeth.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf weithiau.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Syr T.H.Parry-Williams
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Elfennau Barddoniaeth, T.H.Parry-Williams
• Pwy yw eich hoff fardd?
T.H.Parry-Williams
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Ffynnon
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Mae gormod i'w dyfynnu!
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dim byd penodol.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
William Jones / Paul Rushmere
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
'Dagrau sy'n creu holl gelfyddyfwaith byd,
A dagrau sy'n dehongli'r creu i gyd'.
• Pa un yw eich hoff air?
Sws!
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn gerddorol.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Tlawd a balch!
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy nghyfrif banc.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf
a pham?
R.S.Thomas - am ei gerddi a'i ryddiaith ac am fod yn aflonyddwr angenrheidiol.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Sgwâr Caerfyrddin 1966.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Capten y Royal Charter - 'Pam na fasach chi'n torri'r mastiau?'
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O draeth Cemaes i Eglwys Llanbadrig - atgofion.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Brithyll wedi'i fygu mewn saws hufen a pharmesan, bara ffres, hufen
ia siocled hefo sorbé mango, a gwin coch i olchi'r cyfan
i lawr.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded llwybrau'r arfordir a darllen - ond nid ar yr un pryd rhag
ofn i mi ddisgyn!
• Pa un yw eich hoff liw?
Glas.
• Pa liw yw eich byd?
Amryliw.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gorfodi'r mewnfudwyr ledled y byd i ddysgu ieithoedd eu gwledydd mabwysiedig.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes.
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu
waith llenyddol arall?
Taswn i'n gwybod ( a dydw i ddim!) faswn i ddim yn dweud nes i mi
gwblhau'r gwaith.
Ewch
i ddarllen adolygiad o Y Goeden Wen.
|
 |

|