
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Bethan Gwanas
Awdur Amdani ac enillydd Gwobr Tir na n-Og
Dydd Iau, Hydref 11, 2001
|
• Enw:
Bethan Gwanas
• Beth yw eich gwaith?
Awdures a hyrwyddwr llenyddiaeth.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athrawes Ffrangeg a gweithgareddau awyr agored; athrawes Saesneg yn
Nigeria efo VSO; cynhyrchydd efo Radio Cymru; Dirprwy Bennaeth Glan-llyn
ayyb (rhestr rhy faith i gynnwys popeth)
• 0 ble¹'r ydych chi’n dod?
Brithdir ger Dolgellau ym Meirion.
• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Rhydymain, ger Dolgellau ym Meirion.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ew, do. Ar wahan i wersi mathemateg.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Blodwen Jones a'r Aderyn Prin - dilyniant i Bywyd Blodwen
Jones, nofel ar gyfer dysgwyr. Mae'r cynta
wedi gwerthu'n dda, felly gofynnwyd i mi sgwennu un arall - ac mi
fydd yn y siopau cyn diwedd Hydref. Mi fues i'n meddwl am stori, hel
deunydd a gwneud ymchwil am ddwy flynedd, wedyn mi sgwennais y cwbl
mewn tua 5-6 wythnos. Dwi wrth fy modd yn sgwennu am yr hen Blod,
a does wybod, ella y gwnai un arall cyn bo hir.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Amdani!, Dyddiadur Gbara, Bywyd Blodwen Jones,
Llinyn Trons. (Mae addasiad o Coping with Love ar gyfer
yr arddegau a chyfrol o golofnau yr Herald ar gyfer dysgwyr
yn y wasg)
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Brownie Tales, Enid Blyton.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Wedi ei golli, ond yn chwilio am gopi - ac os oes gan un o ddarllenwyr
BBC Cymru a'r Byd hanes copi i mi - cysylltwch os gwelwch yn dda!
• Pwy yw eich hoff awdur?
Cymraeg: Islwyn Ffowc Elis a Geraint V Jones.
Saesneg: Roddy Doyle, Isabelle Allende, JK Rowling & Barbara Kingsolver.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Llwyth ohonyn nhw, yn cynnwys The Poisonwood Bible gan
Barbara Kingsolver a Dandelion Wine gan Ray Bradbury.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Wendy Cope, Gerallt Lloyd Owen a Gwyn Thomas.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Cyfaill gan Dic Jones.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Wylit, wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelet hyn.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Edward Scissorhands a The Shawshank Redemption.
Teledu: Roots. (wylais fwcedi)
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Nathan yn Sophie's Choice gan William Styron (er ei
fod o'n wallgo).
Cas gymeriad: Neb yn sefyll allan, a chymeriad ffilm oedd y Childcatcher
yn Chitty Chitty Bang Bang, ond roedd Bridget Jones yn mynd
ar fy nerfau i.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Gwyn y gwel y fran ei chyw. (ar ôl bod yn athrawes)
• Pa un yw eich hoff air?
Rhadlon.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gallu canu nes bod pobl yn crio efo pleser.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Brwdfrydig,
Prysur,
Aflonydd.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy mhengliniau a'r ffaith mod i'n cofio gormod.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf
a pham?
Buddug, oherwydd ei bod hi'n uffarn o ddynes.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Unrhyw fordaith i ddarganfod gwlad newydd, ddiarth. Doedd merched
byth yn cael mynd, a dwi'n meddwl y byddai dylanwad merch wedi gallu
osgoi ambell i broblem. A ph'run bynnag, pam fod raid i ddynion gael
yr hwyl i gyd?
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Pwy bynnag oedd yn gyfrifol am ddechrau lladd yr Indiaid Cochion,
a gofyn iddo beidio.
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Adre dros Bwlch yr Oerddrws. Amlwg pam tydi?
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Dechrau efo cawl Thai, prif gwrs Thai, a phwdin bara menyn a chawsiau
Ffrengig i orffen. A gwin coch da.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Canwio môr, cerdded mynyddoedd, mynd i'r pictiwrs a'r theatr a darllen.
• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.
• Pa liw yw eich byd?
Enfysaidd.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Rhoi cyflog teg i ddeg awdur rhyddiaith Cymraeg gwahanol - yn flynyddol
am o leia'r can mlynedd nesaf.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, Mwy (neu dim) Amdani! a dwy arall fydd ddim yn son gair
am rygbi.
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu
waith llenyddol arall?
Hoffwn ddiolch am y nawdd hael a gefais i dreulio pum mlynedd yn ysgrifennu'r
gyfrol hon.
Ewch
i ddarllen adolygiad o Pobol sy'n Cyfri
|
 |

|