
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Hafina Clwyd
Cyn olygydd Y Faner ac awdur Pobol
sy'n Cyfri
Dydd Iau, Hydref 4, 2001
|
• Enw:
Hafina Clwyd
• Beth yw eich gwaith?
Awdur a chyfieithydd
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athrawes yn Llundain 1957-79
Golygydd Y Faner 1986-92
Ysgrifenyddes yn Nhy'r Cyffredin 1969-70
• 0 ble’r ydych chi’n dod?
Ganwyd yng Ngwyddelwern ger Corwen. Symud i fferm ar lawr Dyffryn
Clwyd yn 1953.
• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Tafwys, Erw Goch, Rhuthun.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn FAWR iawn. Yn gyntaf yn ysgol y pentre, Gwyddelwern. Wedyn
Ysgol Ramadeg y Merched yn Y Bala cyn symud i Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
yn 1953 ac yna i'r Coleg Normal ym Mangor lle cefais amser bythgofiadwy.
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig
amdano.
Enw fy llyfr diweddaraf yw Pobol Sy'n Cyfri ac mae wedi
deillio allan o fy niddordeb mawr mewn achau a hanes lleol. Yn y gyfrol
hon yr wyf wedi edrych ar Gyfrifiadau 1881 ac yn 1891 ac ar wasg y
cyfnod o fewn y 29 plwy sydd yn nalgylch Y Bedol, papur bro
Rhuthun a'r cylch, ac olrhain hanes y teuluoedd.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Shwrwd, ysgrifau; Clychau yn y Glaw, ysgrifau; Defaid
yn Chwerthin, ysgrifau; Perfedd Hen Nain Llewelyn, erthyglau;
Cwis a Phôs; Buwch ar y Lein, dyddiaduron; Merch
Morfydd, hunangofiant; Clust y Wenci, erthyglau; Golygu
Welsh Family History, A Guide to Research.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Byddaf, yn achlysurol ac yn dal i deimlo'r wefr gyntaf honno pan oeddwn
yn wyth oed.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg - Islwyn Ffowc Elis.
Yn Saesneg - Antonia Fraser a Ruth Rendell.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Cofio edmygu erthyglau Katherine Whitehorn yn y wasg Saesneg. Hefyd
ysgrifau disglair Bertrand Russell. Yn ogystal, wrth gwrs, â phobl
fel T. H. Parry-Williams a Y Byw Sy'n Cysgu gan Kate Roberts.
• Pwy yw eich hoff fardd?
T H Parry-Williams oherwydd ei symlrwydd a'i gefnder, R. Williams
Parry, am ei ddefnydd o eiriau.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Mae Hiraeth yn y Môr gan Williams Parry.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Melfed yr haf ar dafod - llinell gyntaf englyn Saunders Lewis
i'r Eirin Gwlanog.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Lawrence of Arabia. Rhaglen deledu: Fifteen to
One
• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Luned Bengoch.
Cas gymeriad: Robin y Sowldiwr
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Hysbys y dengys dyn o ba radd y bo'i wreiddyn.
Hefyd, dywediad Emrys ap Iwan: "Os lleddir y Gymraeg, fe'i lleddir
yn nhy ei chyfeillion."
• Pa un yw eich hoff air?
Cathod.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Medru creu cartwnau.
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Triw. Ffraeth. Blonegog.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Llond trol o wendidau. Methu dioddef ffyliaid. Dim amynedd â blerwch
- meddwl na phersonol. Methu colli pwysau ar ôl rhoi'r gorau i ysmygu.
Rhy nerfus i ddysgu gyrru car. Trafferth i godi yn y bore.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Edmygu Sidney Silverman, yr aelod seneddol a frwydrodd mor galed
i ddileu'r gosb eithaf yn y pumdegau.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Bod ar y daith drwy Gymru yn 1188 yng Nghwmni Gerallt Gymro.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Buaswn yn hoffi gofyn i Harri'r seithfed pam na fyddai wedi sicrhau
bod yr iaith Gymraeg yn cael ei gwneud yn iaith swyddogol drwy Gymru
a Lloegr dan y Ddeddf Uno!
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith i ben Moel Famau. Nid yn unig y mae'n ymarfer da i'r coesau
a'r ysgyfaint ond hefyd mae'r olygfa o'r copa yn wefreiddiol.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Unrhyw bryd o fwyd Eidalaidd. Hefyd, eog mwg a siampên ar fore
Nadolig - er bod y ddefod wedi darfod er pan gollais f'annwyl briod.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Mwynhau croeseiriau'n fawr. Olrhain hanes teulu a hanes lleol.
Fy nghathod. Darllen dibendraw. Bwyta allan mewn cwmni da.
• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd
• Pa liw yw eich byd?
Piws.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
"Nid yw'r mwyafrif bob amser yn gywir."
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Yr wyf yn golygu fy nyddiaduron 1990-2000.
• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol delfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Trannoeth i Hafina ennill y loteri.....
Ewch
i ddarllen adolygiad o Pobol sy'n Cyfri
|
 |

|