
• Enw:
Hywel Teifi Edwards - hanesydd eisteddfodol ac awdur y gyfrol
ddiweddaraf yng Nghyfres y Cymoedd - Merthyr a Thâf
- a gyhoeddir gan Wasg Gomer.
Bu’n ateb cwestiynau ar Raglen Nia Roberts, ar Radio
Cymru.
• Ble gawsoch chi’ch geni a phryd?
Yn Llanddewi Aberarth ar Hydref 15, 1934.
• P’un oedd atgof melysaf eich plentyndod?
Y bore hwnnw pan aethon ni i Aberystwyth mewn tacsi i gwrdd â nhad
oedd yn dod gartre o’r Almaen lle’r oedd e wedi bod yn garcharor rhyfel.
Roeddwn i rywle tua 6 neu 7 oed. Roedd ’nhad wedi bod yn garcharor
rhyfel ers 1941 am ddwy flynedd a hanner. Roedden nhw’n cyfnewid carcharorion
a fe gath e ddod adre cyn y diwedd. Ar y môr oedd e, a dyn o Aberaeron
oedd capten y llong gafodd ei suddo gan yr Almaenwyr a roedd nifer
o bobol o’r ardal arni hefyd.
Roedd e’n un o’r rhai gafodd eu cyfnewid cyn diwedd y rhyfel oherwydd
cyflwr ei iechyd e.
• Oes hobïau gennych chi?
Trïo heneiddio yn rasol - celwydd yw hwnna!
Mae gen i ddiddordeb ym mhob math o chwaraeon - gwylio nhw ar y teledu
fydda i nawr. Pêl-droed - socer - wrth gwrs. Socer oedd y gêm yn Sir
Aberteifi. Fe ddês i ymddiddori mewn rygbi ar ôl mynd i fyw yn y de,
ond socer oedd y ngêm i.
Ac Arsenal oedd y nhîm i. Roedd yna bedwar o Gymry yn whare i Arsenal
pan o’n i’n yr ysgol. A Wally Barnes oedd y capten - Cocni rhonc ond
bod e wedi cael ei eni yn Aberhonddu pan oedd ei dad yno yn y fyddin.
Rwy’n cefnogi Arsenal o hyd ac yn llawenhau fod Patrick Vieira yn
mynd i aros yno. Dwi erioed wedi bod yn Highbury - dwi eisie cadw’r
rhith, mae’n debyg.
Buaswn i wedi dwli bod yn John Charles - y rhyfedda ohonyn nhw i gyd.
Rhyw Fendigeidfran o wariwr socer. Roedd ei gampe fe’n rhyfeddol.
O’n i’n dwli ar griced a thenis hefyd. Rwy’n cofio Lew Hoad a Ken
Rosewall yn dod o Awstralia i whare yn Wimbledon am y tro cyntaf.
O’n i’n addoli Hoad.
Dyw tenis ddim beth oedd e. Mae’r gêm wedi mynd yn llawer mwy boring
- roedd llawer mwy o artistiaid yn y gêm ers talwm. Roedd y gêm gymaint
â hynny’n fwy araf a hyfrytach i’w gwylio. Doedd y racets ddim beth
ydyn nhw nawr - ddim mor hi-tech - a roeddech chi’n cael mwy
o shots hyd yn oed yn gêm y dynion. Roedd hi’n llawer mwy sgilgar.
Er bod McEnroe a Borg yn chwaraewyr rhyfeddol hefyd. Ond Lew Hoad
oedd yn arwr i.
• Beth sy gyda chi yn eich poced?
Dim arian yn sicr - mae’r wraig yn mynd â’r rheini! Allweddi’r car
a macyn - rhag ofn bydda i’n mynd lefen yn ystod y sgwrs yma!
• Oes rhywbeth rydych chi wedi difaru amdano?
Roedd byd y gân yn bwysig i ni fel teulu. Roedd Mam - sy’n 93 ac yn
dal yn fyw, bendith arni - yn soprano hyfryd. A roedd fy whâr yn gyfeilydd
tan gamp. Enillodd hi ar ganu’r piano yn Eisteddfod y Rhos, 1945.
Fi yw’r unig lob yn y teulu na wnaeth ddysgu darllen y node. Rwy’n
cofio’n whâr yn trïo ’nysgu i - y cwbwl o’n i eisie o’dd mynd mâs
i gico pêl. Rwy i wedi difaru nad ydw i wedi dysgu canu’r node. Dyw
nghlust i ddim yn ddrwg, ond allwch chi ddim dibynnu ar eich clust
bob amser.
Mae gen i edmygedd dibendraw a llatheidi o genfigen at gerddorion.
Clywed y lleisiau godidog - llais go-iawn rwy’n feddwl - rhywun yn
medru sefyll ar lwyfan a medru canu gerbron y byd.
• Ble bysech chi’n caru bod y funud hon?
Dwi ddim yn grwydrwr. Fe gês i helyntion iechyd ddechre’r saithdegau
ac yn yr wythdegau a rhyw bethe digon diflas o’dd yn gallu ’nharo
i’n ddirybudd ac i ryw radde fe wnaeth hynny gaethiwo fy awydd i grwydro.
Bues i yn America y llynedd - gwlad wallgo, ro’n i’n falch dod ’nôl.
Mae dyn yn canmol ei lwc a diolch i’w Dduw bod e fel ag y mae e.
Fe ddechreues i fynychu’r Llyfgell Genedlaethol gyda Gwenallt pan
o’n i’n gwneud ymchwil yn y pumdegau.
Un o bleserau bywyd i fi hyd heddi yw mynd i’r Llyfrgell Genedlaethol.
Mae cael mynd drwy bapurau a chyfnodolion Oes Fictoria, pori yn rheini
a dilyn ambell drywydd wrth fy modd i a’r amser yn hedfan.
• Pwy oedd y person diwetha wnaethoch chi siarad gydag
e ar y ffôn?
Dafydd Lloyd Hughes ddoe. Byddwn ni’n cwrdd am ambell sgwrs yn y Ram
yng Nghwman a chael ambell lasied o orenj jiws. Mae’n well gen i weld
rhywun wyneb yn wyneb na siarad ar y ffôn. Mae’n gâs gen i’r dechnoleg
fodern, yr e-bostio yma. Rwy’n credu fod pobol wedi cael eu gwneud
i gwrdd â’i gilydd a siarad â’i gilydd.
• Pwy gymeriad hanesyddol fuasech chi’n hoffi ei gyfarfod?
Mae hanes Cymru’n llawn ohonyn nhw. Un yn sicr fuase William Williams
Pantycelyn. Licien ni ofyn iddo beth fydde fe’n ofyn i fi sen i’n
cael fy nal mewn Seiat gydag e. A gofyn iddo fe wedyn a fydde fe’n
debyg o lunio emyn ar sail yr hyn weden i wrtho fe.
Roedd cynifer o’i emynau e yn emynau profiade’r Seiat. Dyna sy’n wneud
e mor fendigedig. Pechaduriaid yn dod ato fe i gyffesu yn y Seiadau
a’i awen ynte’n troi’r cyffesiadau hynny yn emynau sy’n ein gwaed
ni.
Rwy’n arbennig o hoff o’r emynau hynny sy’n sôn am bererin a phererinion.
Mae’n debyg y cawn i driniaeth galed gydag e mewn Seiat.
• Ydych chi’n ymfalchïo o weld eich mab yn darllen
y newyddion ar BBC1 am chwech o’r gloch?
Bydden i’n anferth o gelwyddgi ’sen i’n dweud bo fi ddim. Rwy’n gobeithio
mai balchder naturiol yw e o weld rhywun yn gwneud ei job yn weddol
gymen. Yn fwy na dim rwy’n rhyfeddu bod pobol yn dweud ei fod e’n
debyg i fi.
Pan yw e’n dweud ei stori, mae’n debyg bod yna leisiau yn ei glust
yn dweud pob math o bethe wrtho fe. Petae hynny’n digwydd i fi fe
fydde yna atalnodau o fath gwahanol iawn yng nghanol y geiriau. Fydden
i ddim yn para diwrnod yn y job. Mae ei fam yn fwy nerfus na fi drosto
fe.
• Oes gennych chi gân rydych chi’n ei chasáu?
Oes nifer ohonyn nhw. Land of Hope and Glory yn bennaf.
Mae honno’n codi o fy niddordeb i yn Oes Fictoria pan oedd hi ar ei
mwyaf brochus a sarhaus.
Mae’n dda gen i fod Edward Elgar ei hunan yn cywilyddio at yr anthem
imperialaidd yna. Fel alaw mae’n hyfryd ond am eiriau cableddus -
Duw a’n gwaredo.
Fe fydda i’n gwrando ar rai o berfformiadau’r Proms - ond ddim
y wedd yna.
Mae’r Saeson yn mynnu glynu wrth honna - dyna i gyd sy ’da nhw ar
ôl o’u blydi ymherodraeth erbyn hyn!
|
 |

|