
• Enw:
Jon Gower - gohebydd celfyddydau y BBC yng Nghymru
• Beth yw eich gwaith?
Newyddiadurwr
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Labrwr, gweithio mewn gwarchodfa natur, cynhyrchydd radio, cyflwynydd
teledu
• 0 ble¹’r ydych chi¹n dod? Pwll, Llanelli
• Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Canol Caerdydd
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Blynyddoedd gorau ‘rioed
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
D’wedwch ychydig amdano.
Darllenais erthygl yn y Times am ynys fechan Smith ym Mae
Chesapeake yn America a storio’r darn.
Yna enillais wobr John Morgan oedd wedi caniatau i mi dreulio amser
yn ymweld ac ynys Smith.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Big Fish - cyfres o straeon byrion. Wedi golygu Homeland,
A Year in a Small Country a Wales: In Our Own Image.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Lord of the Rings
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Buaswn - ond ma na gymaint o lyfrau eraill i’w ddarllen
• Pwy yw eich hoff awdur?
James Lee Burke
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Their Eyes Were Watching God gan Zora Neale Hurston
• Pwy yw eich hoff fardd?
Elizabeth Bishop
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Poem gan Elizabeth Bishop
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"Old ladies can wind their long hair in this language and can
hum and knit pancakes" allan o gerdd Jan Harold Holm am yr iaith
yng Ngwlad yr Iâ.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Napoleon - yr un cynnar o’r dauddegau
Ar y sgrîn fach: Later with Jools Holland.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Zorba the Greek yn y nofel gan Kazantzakis yw fy hoff un a
Sauron o Tolkien yw’r cas gymeriad
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Cas gwr nas caro’r wlad ei maco.
• Pa un yw eich hoff air?
Cariad
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae’r piano.
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Brwdfrydig
Mawr
Egniol
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich
hunan?
Fy mhwysau
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Mam - am ei chryfder a’I thynerwch.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Plentyndod dadcu
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth
fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Y cyfansoddwr Sibeliws a diolch iddo am ei bumed symffoni
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Gartre ’rôl bod i ffwrdd am hir.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Corgimwch wedi eu coginio da lemwn a garlleg.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, cerdded ac yfed cwrw.
• Pa un yw eich hoff liw?
Du
• Pa liw yw eich byd?
Melyn
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Rhannu arian yn deg rhwng pobl
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes - nofel arswyd a llyfr ffeithiol am y Somaliaid.
• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Un sy’n hoelio sylw.
Ewch
i ddarllen adolygiad o
An Island Called Smith
|
 |

|