
• Enw:
Aled Jones Williams
• Beth yw eich gwaith?
Ficer
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? BYW GYDA
POBL ANABL MEWN CYMUNED O’R ENW L’ARCHE YN LERPWL
• 0 ble’r ydych chi¹n dod?
LLANWNDA GER CAERNARFON
• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
PORTHMADOG
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
CHWECHED DOSBARTH, DO. OND NI FWYNHEAIS I ‘RUN COLEG . NA BANGOR
NA CHAERDYDD. DWEUD Y GWIR CASEAIS Y COLEG DIWINYDDOL YN LLANDAF.
TWLL O LE..
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig
amdano.
MARWOLAETH FY NHAD O DDEMENTIA YM 1997. DYDDIADUR YDIO OND MAE
PAWB I WELD YN EI ALW YN NOFEL. MAE’N SON LLAWER AM BLENTYNDOD YNDDO.
HEFYD Y MAE STORI AM GARWRIAETH YN YSTOD Y RHYFEL MAWR.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Y DDRAMA YDY FY NGHARIAD CYNTA. FELLY DRAMAU YR YDWI WEDI
EU SGWENNU. PERFFORMIWYD; CNAWD PEL GOCH; FEL STAFELL; WAL; SUNDANCE
; TIWLIPS.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
YCHYDIG IAWN OEDDWN I YN EI DDARLLEN PAN OEDDWN I YN BLENTYN.
BRON DDIM STORIAU. AC FELLY DOES YNA ‘RUN LLYFR YN NEIDIO I FY NGHOF.
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
MOND AR Y GWACTER LLE DYLAI LLYFR FOD.
• Pwy yw eich hoff awdur?
JANE EDWARDS
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
LLYFR Y TRI ADERYN GAN MORGAN LLWYD.
• Pwy yw eich hoff fardd?
ROBERT WILLIAMS PARRY
• Pa un yw eich hoff gerdd?
A.E.HOUSMAN GAN R. WILLIAMS PARRY.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
OND HIRAETH DOETH Y GALON ADRE A’M DUG
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
FFILM: ETERNITY AND A DAY GAN THEO ANGELOPOULOS.
RHAGLEN DELEDU: THE VICE HEFO KEN STOTT YN ACTIO.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
FY HOFF GYMERIAD YW Y BRENIN LLYR – KING LEAR.
FY NGHAS GYMERIAD YW ENOC HUGHES AM EI FOD O MOR LLYWAETH.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
AMDANAF FI; NID EISTEDD GYDA’R UNION-GRED,NA CHYDA’R ANGHRED YNFYD.
• Pa un yw eich hoff air?
PORFFOR
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
MEDRU CERFLUNIO
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
ANSICR;
ANWADAL;
OFNUS.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
DIFFYG YNNI WEITHIAU.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
ANGHARAD TOMOS OHERWYDD DYFNDER EI DALIADAU.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Y RHYFEL CARTREF ADEG MORGAN LLWYD A CROMWELL.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
IESU. AR CWESTIWN FYDDAI; "WEL, BE TI’N FEDDWL?"
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O FANGOR I LUNDAIN AR Y TREN. OHERWYDD FY MOD I YN HOFF O’R DDINAS
A’R HYN YMAE HI YN EI GYNNIG
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
UNRHYW FATH O GYRI WEDI EI GOGINIO YN DDA.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
CRWYDRO
• Pa un yw eich hoff liw?
MELYN
• Pa liw yw eich byd?
GWYRDD.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
FOD ADDYSG A IECHYD YN WIRIONEDDOL AM DDIM I BAWB
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
OES
• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
ELWCH Y MOR. CODODD Y GRAGEN ODDI AR Y SILFF BEN TAN A’I GOSOD WRTH
EI GLUST.
Ewch
i ddarllen adolygiad o
Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun.
|
 |

|