
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Sandi Thomas
Awdur You
Don't Speak Welsh? - llyfr am brofiadau dysgwraig
Dydd Iau, Mehefin 28, 2001
|
• Enw:
Sandi Thomas
• Beth yw eich gwaith?
Dw i wedi bod yn athrawes llenyddiaeth a drama, cyfarwyddwraig theatr,
gohebydd papur newydd yng ngogledd California ac yn ysgrifennwr teithio
i’r San Francisco Examiner ac Alaska Magazine.
• O ble'r ydych chi'n dod?
Dw i’n dod o Galiffornia (Colorado yn wreiddiol)
• Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Dw i'n byw yng Ngwlad Belg nawr.
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr?
I fod yn hwb i ddysgwyr Cymraeg ac i geisio perswadio rhai sydd ddim
yn siarad Cymraeg i ddysgu’r iaith. I ddangos fod byd y Cymro Cymraeg
werth y drafferth o ddysgu’r iaith.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim. Mae hwn yn llyfr cyntaf.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfrau dirgelwch Nancy Drew
• A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Fel ffrindiau hen
• Pwy yw eich hoff awdur?
Mae llawer! Jane Austen, Sharon Kay Penman, Stephen King... i enwi
ond ychydig.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Here Be Dragons gan Sharon Kay Penman
• Pwy yw eich hoff fardd?
Mae llawer, eto! Edna St. Vincent Millay (Americanes), Wilfred Owen
(Sais), David Greenslade (Cymro)
• Pa un yw eich hoff gerdd?
The Town I Loved So Well gan Phil Coulter
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
I'm Nobody, who are you? Are you Nobody too?
- Emily Dickenson
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dw i ddim gwylio teledu ond fy hoff ffilm yw To Kill A Mockingbird.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy hoff gymeriad yw Miss Elizabeth Bennet yn Pride and Prejudice.
Fy nghas gymeriad yw Sir Lancelot.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y
gwir?
Ffydd, gobaith, cariad a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.
• Pa un yw eich hoff air?
Caru
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Yr holl gelfyddydau - artist, pianydd, actores ac ysgrifennu.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Bywiol
Teyrngar
Angerddol
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio?
Mathemateg!!
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf
a pham?
Pawb sy’n ymladd dros ryddid rhag gormes.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
William Shakespeare.
Oeddech chi yn unig awdur eich dramâu?
• Pa un ys eich hoff daith a pham?
Fy nhaith cyntaf i Gymru. Agorodd fyd newydd imi.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Llyfrau
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen neu fynd am dro
• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd
• Pa liw yw eich byd?
Melyn
• Pa gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Goddefgarwch tuag at wahaniaethau ac amrywiaeth pobl eraill.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes
|
 |

|