
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Owain Siôn
Awdur Bwli nofel fuddugol Medal Lenyddiaeth Gwyl
yr Urdd 2001.
Dydd Iau, Mehefin 21, 2001
|
• Enw:
Owain Siôn
• Beth yw eich gwaith?
Athro Cymraeg
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyfieithydd rhan-amser i Barc Cenedlaethol Eryri
• 0 ble’r ydych chi¹n dod?
Llwyndyrus ger Pwllheli
•ˆLle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Yn symud i Gaerdydd ym mis Awst, ond yn Llwyndyrus ar hyn o bryd.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do yn fawr. Er roedd hi’n gas gen i arholiadau ond roeddwn yn
mwynhau ymchwilio a chreu o’r newydd.
•ˆBeth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch
ychydig amdano.
Bu i ffrind agos i mi fod yn dioddef o’r salwch bwlemia ychydig
flynyddoedd yn ôl.
Bum yn ymweld â hi yn yr ysbyty a dod ar draws bechgyn yn dioddef
o’r un cyflwr. Hanes myfyriwr ifanc sydd yma ar ddiwedd ei gwrs gradd
yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru.
Gwelwn ei ddatblygiad yn ystod tymor y Nadolig a sut y mae’r salwch
yn cael mwy a mwy o afael arno. Mae’r newid yn ei gymeriad yn dod
i’r amlwg a’i berthynas ag eraill.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim eto!
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant
•ˆA fyddwch yn edrych arno’n awr?
Byddaf, ac yn falch ei fod wedi ei ail-argraffu’n ddiweddar ar
gyfer cenhedlaeth arall o blant.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Nifer ohonynt – Geriant Vaughan Jones, Mihangel Morgan , Angharad
Tomos a Bethan Gwanas.
•ˆA oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Dyddiadur Goara gan Bethan Gwanas sy’n cael golwg ar fywyd Cymraes
yn ceisio ymdopi â gwneud gwyrthiau o dan amgylchiadau anodd iawn.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Gerallt Lloyd Owen a Mei Mac.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Pe bawn i yn artist gan T.Rowland Hughes.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
‘Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad’ Saunders Lewis.
•ˆPa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm – Stand by Me, nofel gan Stephen King.
Rhaglen deledu – This Life ( y ddwy gyfres) a Big
Brother.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff - Ennyd yn Wele’n Gwawrio gan Angharad Tomos.
Cas - ?
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Teg edrych tuag adref.
• Pa un yw eich hoff air?
Homar
• Pa ddawn hoffech chi ei chael? Medru tynnu llun / bod yn
dda ym myd chwaraeon.
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Diog, amyneddgar, ymdrechgar.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Methu gweld drwy bobl annifyr yn syth.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Gwilym Plas, Llwyndyrus.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Dymchwel Wal Berlin.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Dafydd ap Gwilym – ‘Gymri di beint?’
• Pa un yw eich hoff daith a pham? O Lithfaen i lawr i Nant
Gwrtheyrn – yr olygfa.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Homar o brôn coctêl, heb y salad.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cyfansoddi, canu, canu’r piano, darllen.
• Pa un yw eich hoff liw?
Melyn.
• Pa liw yw eich byd?
Glas Golau.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Mai pobl leol sydd i gael y cynnig cyntaf ar dai sy’n mynd ar
werth ym Mhen Llyn.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ddim ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd yn reit fuan.
• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Dau gnonyn bach drwg oedd Paladr ac Esgyll.....
Adolygiad
o Bwli
|
 |

|