
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Mair Evans
Awdur Pwy sy'n Cofio Siôn? Nofel ar gyfer
dysgwyr am ferch ifanc yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd
i ganwr pop enwog.
Dydd Iau, Mai 10, 2001
|
•Enw:
Dr Mair Evans
• Beth yw eich gwaith?
Rwy'n bennaeth Adran y Gymraeg yng ngholeg Gorseinon ger Abertawe.
Rwy'n dysgu myfyrwyr 16-18 oed ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Bues i'n athrawes ysgol uwchradd ac yn diwtor ar gyrsiau Wlpan.
• O ble’r ydych chi¹n dod?
O Lansamlet, ger Abertawe.
• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Yn Llansamlet.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn fawr iawn.
Ces i'r dechrau gorau posibl yn ysgol Lôn Las, wedyn Ysgol Gyfun Ystalyfera
a ches i amser mor wych yng ngholeg y brifysgol Llanbedr Pont Steffan
arhosais i yno am dair blynedd arall ar ol graddio i wneud traethawd
ymchwil PhD dan ofal y Dr. Islwyn Ffowc Elis.
• Pam sgrifennu llyfrau?
Pam anadlu?
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Cyfres Narnia gan C.S. Lewis
• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf, nawr ac yn y man.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Irvine Welsh, Robin Llywelyn, Douglas Coupland, Mihangel Morgan ...
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Ar ol darllen Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames pan o'n i
yn fy arddegau, penderfynais i mod i eisiau ysgrifennu yn Gymraeg.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Yn Gymraeg, W.J. Gruffydd.
Yn Saesneg, Coleridge.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Y Tlawd Hwn gan W.J. Gruffydd.
• A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ga i ddewis darn o ryddiaith?
Mae'r geiriau hyn yn dod o lyfr bywgraffiadol Edmund Gosse, Father
and Son -
"As respectfully as he could, without parade or remonstrance, he
took the human being's privilege to fashion his inner life for himself"
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Excalibur, John Boorman.
Teledu: The Prisoner (achos mae'n fwy perthnasol nawr na phan
gafodd ei ffilmio!)
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y
gwir?
Carpe diem - mae'n hanfodol i wneud y gorau o bob munud o bob
dydd!
• Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn
awdur?
Ysgrifennwch!
Mae meddwl am ysgrifennu, siarad am ysgrifennu, a mynd ar gyrsiau
ysgrifennu yn gallu helpu, ond peidwch a gwneud y pethau hyn YN LLE
ysgrifennu!
Mae nofel yn cael ei hysgrifennu un gair ar y tro - ysgrifennwch y
gair cyntaf heddiw!
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Hoffwn i allu canu.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Gofynnais i fy ffrindiau, a dywedon nhw:
Creadigol
Cynnes
Dirgelwch
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Nac oes, dim. Does neb yn berffaith - ond dyna'r hyn sy'n ein gwneud
ni i gyd yn unigryw.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf
a pham?
Fy ffrind, Christine Jones, am ymdopi mor llwyddiannus gyda swydd
llawn amser, ysgrifennu a golygu llyfrau, a bod yn fam i ddau o blant.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Mudiad y suffragettes ar droad yr 20fed ganrif.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Anne Frank - er mwyn iddi wybod ei bod hi wedi cael ei dymuniad o
fod yn awdur, a gwybod ei bod hi wedi gwneud gwahaniaeth i'r byd.
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y cylch o gwmpas penrhyn Dingle yng ngorllewin Iwerddon - os ych chi'n
lwcus i gael diwrnod braf!. Mae naws cyfriniol iawn yno, ac ych chi'n
gallu clywed y Wyddelig yn cael ei siarad yn naturiol.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasta gyda saws pesto. Gwin coch. Unrhywbeth gyda siocled ynddo fe!
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen yn bennaf. Rwy hefyd yn hoffi brodio, a dysgu crefftau newydd
fel paentio ar wydr, paentio gyda chwyr poeth, ac addurno cerameg.
• Pa un yw eich hoff liw?
Glas.
• Pa liw yw eich byd?
Melyn - lliw blodau'r haul!
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae BOB AMSER llyfr gyda fi ar y gweill!
• Beth fyddai'r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu
waith llenyddol arall?
Rwy'n gweithio ar hynny!
|
 |

|