
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Peredur Lynch
Bardd,
dramodydd a beirniad y mae nofel a addaswyd ganddo yn Nofel
y Mis ar gyfer Mai
Dydd Iau, Mai 3, 2001
|
•
Enw:
Peredur Lynch
• Beth yw eich gwaith?
Darlithydd
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Ymchwilydd
• O ble’r ydych chi¹n dod?
Carrog, gerllaw Corwen
• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Bangor
• Wnaethoch chi fwynhau eich haddysg?
Do
• Dywedwch ychydig am y llyfr yr ydych newydd ei gyhoeddi.
Addasiad o nofel dditectif Saesneg, Mother’s Boys gan Robert
Barnard.
• Cyfieithu - ei bleserau, ei anawsterau, ei werth - trafodwch!
Addasiad yw’r llyfr, ac nid cyfieithiad!
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu cyhoeddi?
Rwy’n gyd-awdur sawl cyfrol academaidd
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Trysor y Môr Ladron
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Byddaf o bryd i’w gilydd
• Pwy yw eich hoff awdur?
Graham Greene
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Nac oes
• Pwy yw eich hoff fardd?
Dafydd ap Gwilym
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Rwy’n edrych dros y bryniau pell …
• A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Tosturiaethau fel y lli
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Godfather
Dad’s Army
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y
gwir?
Da dant rhag tafod
• Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn
awdur?
Ystyriwch fynd i fyd y gyfraith. Mi gewch fwy o arian!
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y gallu i dorri newyddion drwg
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Digyffro
Digyffro
Digyffro
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Yr anallu i gwblhau gwaith mewn pryd
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
William Salesbury.
Yr oedd ganddo weledigaeth.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Eisteddfodau Caerwys
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Dafydd ap Gruffydd.
‘Callia!’
• Pa un yw eich hoff daith a pham? O amgylch Castell
Carreg Cennen
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Yr un diwethaf
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Nofio
• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd
• Pa liw yw eich byd?
Llwyd
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes
• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Bobol bach, ’wn i ddim!
|
 |

|