
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Menna Elfyn
Bardd
aflonydd sydd wedi teithio'r byd gyda'i barddoniaeth
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
|
Holi
Menna Elfyn, bardd ac awdur.
• Enw:
Menna Elfyn
• Beth yw eich gwaith?
Awdur.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlithydd. Ymchwilydd.
• O ble’r ydych chi’n dod?
O Bontardawe i Beniel i Landysul. H.y. De Cymru.
• Lle’r ydych chi’n byw yn awr?
Llandysul/Caerdydd.
• Pam barddoni?
Am na allaf beidio.
• Yr ydych wedi teithio llawer - sawl gwlad, sawl milltir?
Gormod i’w cyfrif - Mexico, Fietnam, Ewrop, America - ddwy waith y
flwyddyn.
• Beth yw gwerth teithio o’r fath - a chwithau yn fardd Cymraeg?
i brofi y gall y Gymraeg fod yn iaith llên y byd i gyd.
• Pa ymweliad fu’r un mwyaf cofiadwy?
Sri Lanka.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Robert Frost; Elizabeth Bishop; Paul Valery.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Llyfrau Albert Schweitser a Simone Weil.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Waldo; T. Gwynn Jones.
• Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?
Paul Anster; Romesh Gunesekera
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Mewn Dau Gae, Waldo.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dr Zhivago (dêt cyntaf gyda fy ngwr).
Newsnight; Eastenders.
• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Duw dros bawb.
• Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd?
Darllen, darllen, darllen. Yn enwedig geiriaduron.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Cyfansoddi cerddoriaeth.
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Aflonydd.
Llonydd.
Llawen.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf
a pham?
Desmond Tutu.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Cyfnod merched yn ymladd dros y bleidlais.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech
chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Simone Weil.
Pam? Pam?
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Landysul i Aberystwyth ac yn ôl.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyri twym.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, sawl un.
• Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi
eu cyfansoddi?
Heb eu creu eto.
• Beth sy’n sbarduno cerddi?
Darllen.
Teithio.
Joio byw
Poeni am arian a methu a joio byw.
Gweler
hefyd Adolygiad Katie Jones o Cusan Dyn Dall
sydd newydd ei gyhoeddi
|
 |

|