
|

|
 |
Adnabod
Awdur:
Golygydd siaradus, cyfeillgar a brwd
sy'n
chwilio am holl gerddi serch Cymru
Dydd Iau, Mawrth 8, 2001
|
Holi
Bethan Mair Matthews, cyd-awdur cyfrol
am briodi sydd newydd ei chyhoeddi.
• Enw:
Bethan Mair, golygydd Hoff Gerddi Cymru.
• Beth yw eich gwaith?
Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion gyda Gwasg Gomer yn Llandysul
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlithydd
• O ble¹r ydych chi¹n dod?
Pontarddulais, ger Abertawe
• Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
Yn y Bont o hyd
• Pa lyfrau ydych wedi eu cyhoeddi?
Fi yw golygydd Hoff Gerddi Cymru, a chyd-awdur Sut i Drefnu
Priodas (Gomer).
Rwyf hefyd yn awdur Y Da Cyfoes, cyfrol fach yn trafod barddoniaeth
Gymraeg rhwng 1945 ac 1952 (Barddas 1996) a sawl erthygl ar lenyddiaeth
Gymraeg.
Mae dwy gyfres o lyfrau i blant bach a addaswyd i¹r Gymraeg gen i
ar fin ymddangos hefyd, sef Cyfres Pi-po a Chyfres Anifeiliaid
Bach Gwyllt.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg, T. H. Parry Williams. Yn Saesneg, Annie Proulx. Rwyf hefyd
yn hoff o Milan Kundera ac Umberto Eco, ond yn eu darllen mewn cyfieithiad.
Mwynheais lyfrau Helen Fielding am Bridget Jones hefyd!
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Wedi darllen llawer o lyfrau cofiadwy iawn, mae'n rhy anodd dewis
un.
• Pwy yw eich hoff fardd?
T. Glynne Davies
• Pa un yw eich hoff gerdd?
CwmNant yr Eira gan Iorwerth Peate
• Pa lyfr rhyddiaith wnaeth yr argraff fwyaf arnoch - ac ym mha
ffordd?
The Shipping News gan Annie Proulx, am ei fod mor wirioneddol
ardderchog. Dyma sut ddylai nofel fod!
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff iawn o'r ffilmiau Singin in the Rain ac LA Confidential.
Llawer yn rhy hoff o'r teledu, yn enwedig Eastenders, Home
Front in the Garden, Vicar of Dibley a This Life.
Mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd!
• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Ni leddir iaith na chenedl fyth ond gan ei phobl ei hun - D. J. Williams
• Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Darllennwch gymaint ag y gallwch, o bob math o lyfrau, ond yn enwedig
y math o lyfr yr hoffech chi ei ysgrifennu. Byddwch yn hunan-feirniadol,
ond peidiwch â bod ofn mentro.
Cymerwch gyngor gan gyhoeddwr.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Reidio beic! Wedi methu'n lân â dysgu.
• Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau?
Cyfeillgar
Siaradus
Brwd.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Methu â dewis, sori.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Darganfod America. Mae¹r syniad o fentro i¹r anwybod yn fy nghyffroi
ac yn codi ofn arnaf, ond meddyliwch am fenter y rhai hynny a aeth
ati i hwylio i¹r Gorllewin heb ddim syniad o¹r hyn oedd o¹u blaenau.
Anhygoel!
• Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech
chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Awdur Y Mabinogi. Buaswn yn gofyn Pwy ydych chi?
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Hwlffordd i Dyddewi, yn enwedig dod i olwg y môr yn Newgale. Mae'r
ardal honno o Sir Benfro, Pebidiog neu Dewisland, yn hudolus - fy
hoff fan.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Rwy'n ceisio colli pwysau ar hyn o bryd felly ddylwn i ddim meddwl
am fwyd, ond rwy'n hoff iawn o lasagne, salad gwyrdd a bara garlleg.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cyfeilio
i gôr Lleisiau Lliw ym Mhontarddulais, a chanu'r organ yn y
capel; gofalu am fy nai bach, Cai; darllen cylchgronau glossy; cefnogi
rygbi yn ystod y gaeaf.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Wrthi'n casglu enwebiadau ar gyfer Hoff Gerddi Serch Cymru,
dilyniant i Hoff Gerddi Cymru.
Mae croeso i ddarllenwyr Cymru¹r Byd ddanfon enwebiadau ar gyfer eu
hoff gerddi plant ataf - bethan@gomer.co.uk.
Gweithio ar lyfrau pobl eraill fydda i fel arfer, serch hynny!
|
 |

|