
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Peidiwch meddwl gormod amdanoch eich hun
Cyngor
bardd i ddarpar feirdd gan Bobi Jones
Dydd Iau, Mawrth 8, 2001
|
Holi
Bobi Jones, bardd, beirniad llenyddol ac ysgolhaig sydd
newydd gyhoeddi cyfrol
am ganu mawl.
• Enw:
Robert Maynard Jones (Bobi Jones)
• Beth yw eich gwaith?
Athro Prifysgol wedi ymddeol.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Addysgu, erioed.
• O ble’r ydych chi’n dod?
Caerdydd.
• Lle’r ydych chi’n byw yn awr?
Aberystwyth.
• Pam barddoni a llenydda?
I foli Duw.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Dafydd ap Gwilym
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Ar wahân i’r Beibl, Y Gomedi Ddwyfol, Dante.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Heblaw Dafydd ap Gwilym, Waldo Williams.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Heblaw Dante, Marwnad Llywelyn ap Gruffydd gan Ruffydd ap yr
Ynad Coch.
• Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?
D. H. Lawrence.
• Pa lyfr rhyddiaith wnaeth yr argraff fwyaf arnoch - ac ym
mha ffordd?
Trosedd a Chosb, Dosdoiefsci -
y syniad o stori dda,
cymeriadu’n gyfoethog,
awyrgylch gafaelgar.
Yr oedd yn brofiad ysbrydol, fel nofelau eraill D.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dwy Briodas Ann gan Saunders Lewis gyda Myfanwy Talog.
• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd:
Luc 22,2.
• Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd
neu lenor?
Peidiwch meddwl gormod amdanoch eich hun.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gostyngeiddrwydd.
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Pechadur
Credadun
Gorfoleddwr
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf
a pham?
Heblaw Iesu Grist rhaid imi enwi dau, y Brenin Dafydd a'r r Apostol
Paul oherwydd eu mynegiad barddonol o’r gwirionedd ac oherwydd eu
bywydau lliwgar.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Diwygiad 1762 yn Llangeitho.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi
yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Ann Griffiths.
Gweddio gyda’n gilydd.
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Cerdded drwy Sir Benfro gyda’m gwraig oherwydd harddwch y ddwy.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Rhaid cael panas. Cig eidion, tatw rhost, pys ffres (byth wedi eu
rhewi), ffa, ysgewyll Brwsel, grefi.
Hufen iâ wedyn.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded,
Darllen
a darllen.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, mae arnaf ofn, cyfrol o gerddi.
• Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi
eu cyfansoddi?
Dim.
• Pam Bobi Jones weithiau ac R. M. Jones droeon eraill?
Dechreuodd fel Bobi Jones oherwydd mai dyna fel y’m gelwid yn llencyn
(ac o hyd). Mae’r plentyneiddiwch yn duedd byth.
Rhoddais gyfrol mewn cyfres addysgol i’m pennaeth, Jac L. Williams,
heb ei llofnodi. Efô a’m henwodd yn R. M. Jones. Fe’i defnyddiais
wedyn i gynrychioli’r agwedd dreth incwm ar fy mywyd - y gwaith academaidd
fel arfer. Does dim cysondeb. Ac mae hynny hefyd yn wendid cyson.
|
 |

|