
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Hen
foi
iawn
.
. . y mae Muhammed Ali, Dafydd ap Gwilym ac R. S. Thomas yn
arwyr iddo!
Dydd Iau, Mawrth 1, 2001 |
Holi
Meirion Macintyre Huws Bardd Plant newydd Cymru
• Beth yw eich gwaith?
Dylunydd Graffeg a Chartwnydd - ond mae barddoni, trafod barddoniaeth
a phethau yn ymwneud â barddoniaeth yn gyffredinol yn dod ag incwm
gwerth ei gael hefyd.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Mae gen i radd Dosbarth 1af gydag Anrhydedd mewn Peirianneg Sifil
- wir yr!
Bum yn gweithio am 15 mlynedd, fel peiriannydd gyda'r Bwrdd Dwr cyn
gadael i sefydlu fy nghwmni dylunio fy hun.
Y swydd gyntaf i mi ei chael erioed oedd Dyn Gwerthu Corona (diod
ysgafn llawn siwgwr a gwynt!)
Am gyfnod bum yn glanhau tanciau mewn gwaith trin carthion. Treuliais
chwe mis fel labrwr yn gosod pibelli dwr.
Bum hefyd yn ddyn Stop and Go - job anniddorol iawn.
• O ble'r ydych chi'n dod?
Caernarfon - y dref ddifyraf yn y byd.
• Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Llanwnda, pedair milltir o Gaernarfon, y dref ddifyraf yn y byd.
• Pam barddoni?
Hynny neu daflu fy hun i'r môr.
Mater o raid yw barddoni i mi - fel anadlu.
Wrth sgwennu byddai'n dianc i fyd arall, lle nad yw dim ond y gerdd
dan sylw yn bwysig ac mae hynny'n brofiad gwerth chweil. Mae bod yn
greadigol, wrth sgwennu ac yn fy ngwaith yn rhoi pleser mawr i mi.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Twm Miall am ei gyfrolau Cyw Haul a Ciw Dôl.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Oes, "The Greatest" gan Muhammed Ali. Hunagofiant y paffiwr
ac un o'r dynion dewraf a fu. Mae ei safiadau dros ei gred a thros
ei hil wedi fy ysbrydoli sawl gwaith.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Dafydd ap Gwilym yn Gymraeg ac RS Thomas yn Saesneg.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Cywydd Diolch am Win Coch gan Ieuan Du'r Bilwg (tua 1470)
• Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?
Roddy Doyle y Gwyddel.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm: The Good, The Bad and The Ugly.
Prin y byddai'n edrych ar y teledu.
• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Am fywyd: "Un ias fer rhwng dwy nos faith"
• Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn
fardd?
Mae hyd cae rhwng eisiau bod yn fardd a bod yn fardd.
Mae'r gallu gan rai, ond i eraill mae'n waith caled iawn.
Y cyngor gorau fyddai i beidio â bod ag ofn neb wrth sgwennu a pheidio
â rhoi gormod o sylw i unrhyw hen gi bach fydd yn cyfarth a chwyno
bob hyn a hyn.
Hefyd, mae'n bwysig i fardd ddarganfod ei lais ei hun yn hytrach na
dynwared lleisiau beirdd eraill.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae offeryn cerdd - yn dda - yr organ geg yn ddelfrydol.
• Pa dri gair sy'n ei disgrifio chi orau?
hen foi iawn!
.• Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Cerdded ar y lleuad.
Er mwyn cael prawf personol fod y peth yn bosib gan fy mod yn amau
yn gryf mai twyll oedd y cyfan.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi
yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndwr.
"Deffra".
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Ar hyd y Foryd o Bont yr Aber yng Nghaernarfon heibio Porth Lleidiog
ac ymlaen at geg yr Afon Gwyrfai.
Mae'r lôn yn dilyn Afon Menai ac mae'r golygfeydd o Eryri a'r afon
yn odidog a gyda'r harddaf yn unman - yn fy marn i.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Dwy dafell o dost gyda chig moch ac wy, a sglefran o sos coch rhyngddynt.
Pand o de, un siwgwr.
Kit Kat yn bwdin a hyn oll yng Nghaffi'r Cei, Caernarfon ar
fore Sadwrn oer.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Pysgota am frithyll, gyda phlu, yn llynnoedd Eryri.
Pysgota nos am wyniadau (sewin) yn Afon Llyfni.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, diolch.
• Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni fel Bardd Plant Cymru?
Cael plant i fod yn gyfforddus yng ngwmni barddoniaeth boed hynny'n
ei ddarllen neu ei ysgrifennu.
• Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi
eu cyfansoddi?
Heb ateb!
|
 |

|