
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Annes Glynn -
Awdur Nofel
Mis Mawrth!
Cofio
Cyn Oeri'r Gwaed yn cynhesu'r gwythiennau
|
Holi
Annes Glynn awdur Nofel y Mis a fydd yn cael ei chyhoeddi Mawrth
1, Diwrnod y Llyfr
• Enw?
Annes Glynn
• Beth yw eich gwaith?
Swyddog Cysylltiadau Corfforaethol Cynorthwyol, Ysbyty Gwynedd, Bangor
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gohebydd gyda Phapurau'r Herald a'r Cymro; Swyddog Cyhoeddusrwydd
i gwmnïau teledu annibynnol; Swyddog Cyfathrebu, Coleg Menai, Bangor.
• O ble rydych chi'n dod?
Brynsiencyn, Ynys Môn.
• Lle rydych chi'n byw yn awr?
Rhiwlas, Bangor.
• Pam sgrifennu llyfr?
Am fod yr awydd yno erioed ac am fy mod i wedi cael cyfle i wireddu'r
freuddwyd wedi ennill ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr?
Nofel gyfoes yw Dilyn 'Sgwarnog am ohebydd ar bapur newydd
lleol.
Mae'n derbyn galwad ffôn un prynhawn diflas ganol gaeaf yn addo "uffar
o stori!" A dyna ddechrau taith sy'n ei harwain ar hyd sawl trywydd
amrywiol wrth iddi drio dod o hyd i'r gwir.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Ar hyn o bryd, Margaret Forster
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Os oes rhaid dewis un, yna Cyn Oeri'r Gwaed, Islwyn Ffowc Elis
amdani. Mi wnes i ei hastudio ar gyfer lefel 'O' a wna'i byth anghofio'r
wefr o glywed darnau yn cael eu darllen yn uchel yn y dosbarth a gwirioni
ar wrando ar farddoniaeth rhythmig y brawddegau.
• Pwy yw eich hoff fardd?
T H Parry -Williams
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Sut ar y ddaear mae dewis?... Mae Bro, THP-W yn dal i fy nghyffwrdd.
Felly hefyd y soned Ailafael ac, wrth i'r hen flynyddoedd 'crablyd
canol oed' nesau, byddaf yn cael blas ar ddarllen Sialens a'r
cwpled clo:
'Nid ildiaf ronyn: dof yn ieuanc rydd,
Mi wn, o'r sgarmes fawr, pan ddêl ei dydd.'
Ia wir!
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Witness; y gyfres Inspector Morse
• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Deuparth gwaith yw ei ddechrau
• Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n bwriadu bod
yn awdur?
Sgwennwch am yr hyn sy'n gyfarwydd i chi ac yn rhan o'ch profiad.
Daliwch ati hyd yn oed pan fo'r 'Awen' ym modiau eich traed! Credwch
ynoch eich hun a byddwch yn barod i chwysu a magu croen fel eliffant!
• Pa ddawn hoffech ei chael?
Y ddawn i greu cynganeddion sy'n codi gwallt y pen ac yn rhoi ias
i lawr meingefn.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio orau?
Gofynnwch i fy nheulu a fy ffrindiau!
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf
a pham?
Fy mam - am ddal ati.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Glanio ar y lleuad
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Faes Meddygon i gyfeiriad Deiniolen - am fod 'hagrwch serchog' Eryri
yn mynd â fy ngwynt i yma.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd
Pryd Eidalaidd yng nghwmni ffrindiau da, a digon o Chianti i'w olchi
i lawr!
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, canu mewn côr lleol, crwydro cefn gwlad, gwneud dim oll ar
ôl bod yn rhedeg fel peth gwyllt drwy'r wythnos!
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Yn fy mhen!
Cael yr amser a'r egni i'w roi ar bapur yw'r gamp...
|
 |

|