
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Bardd gydag ambell i lyfr arall ar y gweill!
|
Holi
Myrddin ap Dafydd bardd, awdur a chyhoeddwr sydd newydd orffen
ei dymor fel Bardd Plant Cymru
• Eich Enw? Myrddin ap Dafydd
• Beth yw eich gwaith? Cyhoeddwr
• O ble’r ydych chi’n dod? Llanrwst
• Lle’r ydych chi’n byw yn awr? Llwyndyrus, Pwllheli
• Pam sgrifennu llyfr? I geisio llenwi bwlch. Mi fyddai
yn gweld yr angen, weithiau yn gofyn i rywun arall sgrifennu’r llyfr
- neu’n ei sgrifennu fy hun
• Dwedwch rywbeth am eich llyfr diweddara? Sach Gysgu
yn Llawn o Greision, Armadilo ar Fy Mhen. Cyfrolau yn anelu
at gyflwyno barddoniaeth i blant
• Pwy yw eich hoff awdur?
T. Llew Jones. Roedd o’n ddylanwad cynnar, mawr arna i. Mae’r person
sy’n eich bachu i ddarllen gynta o reidrwydd yn mynd i fod yn ddylanwad
• A oes urhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Cyfres Twm Sion Cati gan T. Llew Jones
• Pwy yw eich hoff fardd?
Guto’r Glyn
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Hynaf oll heno wyf i gan Guto’r Glyn
• Pa un yw eich hoff ffilm?
Into The West, ffilm o Iwerddon am ddau fachgen o dincer. Cgefndir
o chwedlau Celtaidd. Ffilm ag iddi lawer ar sawl lefel
• Pa un yw eich hoff raglen deledu?
Byd Pws
• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Deuparth gwaith yw ei ddechrau
• Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n bwriadu bod
yn awdur?
Dal ati
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn canu
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Prysur,
Prydlon,
Aanfodlon
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf a
pham?
Nelson Mandela
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi’n hoffi bod yn rhan
ohono?
Gwrthryfel Glyndwr
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Fwlch yr Eifl i Bont Carnguwch.
Rwyf ar fy ffordd adre a rwy'n medru gweld Llyn i gyd - ac Iwerddon
os yw hi’n glir
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bwyd môr, cregin gleision o Borth Penrhyn a Maelgi o Bwllheli
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cerdded,
Teithio,
Rygbi,
Garddio
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ambell un
|
 |

|