
 |
 |
Adnabod
Awdur:
Dyn beics -
a physgod,
tatws a phys!
Llion
Iwan, awdur Llyfr y Mis yn datgelu cyfrinachau amdano'i
hun! |
•
Enw:
Llion Iwan
• Beth yw eich gwaith?
Cynhyrchydd, BBC Cymru
• O ble’r ydych chi’n dod?
Fe ges i ngeni yng Nghaerdydd, ond fy magu yn Waunfawr, Eryri.
• Lle’r ydych chi’n byw yn awr?
Caerdydd
• Pam sgrifennu llyfr?
Dwi wedi bod yn sgwennu ers blynyddoedd ond erioed wedi llwyddo i
orffen dim. Y tro yma roedd dyddiad cau ar gyfer y fedal ryddiaith
yn ddigon o sbardun.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr?
Hanes taith ar feic o Lhasa, Tibet i Kathmandu yn Nepal. (Mil o gilomedrau
trwy’r Himalayas.) Disgrifiadau o’r bobl nes i gwrdd, y llefydd a
welsom a pheth o hanes y wlad, cysylltiadau Cymreig gydag Everest
a peth o’m hanes i hefyd.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Bruce Chatwin
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Gwaed Gwirion, Emrys Jones a Grapes of Wrath, John Steinbeck
• Pwy yw eich hoff fardd?
Dic Jones
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Un fuddugol Gerallt Lloyd Owen, (Dwi ddim yn siwr o’r teitl! Cilmeri)
"Wylit wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn…."
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ar y teledu, ER, a’m hoff ffilm, The Godfather 2
• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Deuparth gwaith yw ei ddechrau - Just do it, fel dywed slogan
Nike!
• Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n bwriadu bod
yn awdur?
Darllen popeth a cheisio ysgrifennu / cyfansoddi bob dydd.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Syrffio - môr, nid y we.
• Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau?
Byrbwyll, Triw ac Amyneddgar!
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf
a pham?
Gwynfor Evans
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Concro Everest
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Seiclo adref o’r gwaith ar bnawn Gwener
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pysgod, tatws a phys - tydi fy sgiliau coginio ddim i ddibynnu arnyn
nhw ar gyfer unrhywbeth mwy cymhleth!
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Beicio mynydd a darllen. Mynd allan.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Dwi wrthi’n ceisio sgwennu nofel antur a llyfr taith arall, sef casgliad
o bortreadau o bobl dwi wedi eu cwrdd tra’n teithio.
Darllenwch
am lyfr Llion
|
 |

|