 |
Deg dethol Beth yw eich barn? Beth fyddai eich dewis?
Mae'r beirniaid swyddogol wedi gwneud eu dewis hwy gan enwi'r deg llyfr y maen nhw yn ystyried y rhai gorau a gyhoeddwyd yn ystod 2006. Ond a yw'r rhestr o ddeg ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2007 yn eich plesio chi? Pa ddeg llyfr fyddech chi wedi eu dewis?
Oedd y beirniaid swyddogol yn iawn i dorri allan o'r gystadleuaeth y ddwy gyfrol, Cydymaith Caneuon Ffydd a Galwad y Blaidd?
Anfonwch ebost i ddweud wrthym trwy glicio YMA a rhoi "Llyfr y Flwyddyn" yn bennawd i'ch ebost
Yn barod mae Dafydd Morgan Lewis wedi dweud:
"Mae absenoldeb Dim ond Deud gan Dafydd John Pritchard o restr hir Llyfr y Flwyddyn yn destun siom a syndod.
"Pa mor dda sydd yn rhaid i gyfrol o farddoniaeth fod i ennill lle ar y rhestr?
"Mae cyfrolau o ryddiaith llai trawiadol o dipyn wedi cael eu cynnwys eleni. Ymddengys i mi na roddir llawer o fri ar farddoniaeth heddiw pan ganiateir i rhywbeth fel hyn ddigwydd.
"Gwell efallai fyddai i feirdd ifanc fel Dafydd roi'r gorau i ysgrifennu barddoniaeth a chanolbwyntio ar ryddiaith. Byddai'n fwy tebyg o gael ei werthfawrogi wedyn."
Cliciwch YMA i weld y rhestr o ddeg.
Cliciwch YMA i ddarllen am y ddau lyfr gafodd eu torri allan.
Cliciwch YMA i weld lluniau o noson cyhoeddi'r rhestr.
Cliciwch YMA i ddarllen sylwadau'r beirniaid.
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|