 |
Cwis Stori Sydyn Mil o bunnau i'w hennill
Bydd timau o bapurau bro o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth derfynol y Cwis Stori Sydyn yn Aberystwyth, Tachwedd 18, 2006.
Trefnwyd cyfres o gwisiau ym mroydd gwahanol bapurau bro er mwyn ennyn diddordeb yn llyfrau Stori Sydyn - cyfres sy'n ceisio annog pobl nad ydynt fel arfer yn darllen i droi at lyfrau.
Yn awr bod yr holl rowndiau rhanbarthol wedi bod bydd pum tîm yn cystadlu am wobr o £1,000 i'w papur bro.
Maen nhw eisoes wedi ennill £250 am fod yn fuddugol yn eu rownd rhanbarthol.
Y pump a fydd yn cystadlu yn Yr Hen Goleg yn Aberystwyth nos Sadwrn, Tachwedd 18 yw.
Y Bedol - gogledd ddwyrain
Y Tincer -canolbarth.
Lleu - gogledd orllewin. Y Cardi Bach - de orllewin.
Y Dinesydd - de ddwyrain
Roedd y cwis yn agored i bob papur bro yng Nghymru, gyda rowndiau'n cael eu cynnal mewn pum rhanbarth.
Roedd pob rownd yn canolbwyntio ar un maes arbennig, tra bo rownd arbennig ar y llyfrau yn y gyfres Stori Sydyn sy'n cynnwys pedwar teitl Cymraeg, Parti Ann Haf gan Meleri Wyn James; Jake gan Geraint V Jones; Dŵr Dwfn gan Conn Iggulden (addas. Elin Meek) a Brân i Bob Brân gan Rowan Coleman (addas. Dafydd a Mandi Morse).
Mae'r ymgyrch hon i annog mwy o oedolion i ddarllen yn cael ei hyrwyddo gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ac mae un debyg yn y Saesneg hefyd.
Yn gyfrolau byrion, bachog dywedwyd fod llyfrau Stori Sydyn - yn ddelfrydol ar gyfer cwis o'r fath.
Yr holwr yn y rownd derfynol fydd Geraint Lloyd, BBC Radio Cymru.
Y Papurau:
Lleu
Y Bedol
Y Tincer
Y Cardi Bach
Y Dinesydd
Cysylltiadau Perthnasol
Cyfres Stori Sydyn

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|