 |
Môr-Ladron Cymru
Adolygiad Leigh Jones o Môr-Ladron Cymru gan Dafydd Merion. Lolfa.
Mae môr-ladron yn rhan fawr o ddiwylliant poblogaidd y ganrif hon, yn enwedig ar y we fyd-eang.
Heb amheuaeth, bu rhan bwysig gan y ffilm Pirates of the Caribbean yn atgyfodiad môr-ladron yn y diwylliant poblogaidd.
Gan fod nifer o fôr ladron mwyaf enwog y byd yn dod o Gymru, doedd hi ddim yn syndod ffeindio fod hanesion môr-ladron Cymru wedi'u chasglu a'u rhoi mewn llyfr.
Casglu'r straeon a'u haildrefnu oedd unig waith Dafydd Meirion ar gyfer y llyfr hwn.
Mae'r straeon a'r hanesion yn ddiddorol iawn ac mae hi hefyd yn ddifyr gweld fod nifer o'r ystrydebau sy'n bodoli ynglŷn a'r môr-ladron nid yn unig wedi'u seilio ar ffeithiau ond yn rhan o'u byw bob dydd.
Er hyn, roedd hi'n siomedig darllen mai dim ond un enghraifft a gofnodwyd o bobl yn cael eu gorfodi i gerdded y planc!
Mae perthynas y straeon â Chymru yn un y gall unrhyw Gymro ymfalchïo ynddi ac rwy'n falch, er fy mod yn byw mewn ardal heb unrhyw gysylltiad â'r môr (heblaw am y ffaith eich bod chi'n gallu ei weld o ben bryn), fod yna dŵr lai na milltir o'm cartref a godwyd i gadw golwg am fôr-ladron.
Er bod y llyfr hwn yn gyfeirlyfr gwych i rai sy'n chwilio am awdurdod ar hanesion môr-ladron Cymreig ac, yn wir, môr-ladron yn gyffredinol; yn anffodus, dim ond casgliad o straeon sydd ynddo a hynny heb lif pendant i'r casgliad hwnnw.
Mae gwell llif i ail hanner y llyfr lle canolbwyntir ar fywyd rhai môr-ladron mewn mwy o fanylder.
Er bod hwn yn llyfr y byddaf yn cyfeirio'n ôl ato yn y dyfodol ni fyddaf yn ei ddarllen eto am y pleser o'i ddarllen.
Adolygiad ar Gwales Cliciwch
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Lowri Rees

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|