 |
Hoff Lyfrau 2007 'Blwyddyn dda am nofelau'
Blwyddyn dda am nofelau oedd disgrifiad Meg Elis o 2007.
Yr oedd Meg, sy'n un o adolygwyr y wefan hon, ac yn trafod y chwe llyfr gorau a ddarllenodd yn ystod y flwyddyn ar Raglen Sian Thomas, ddydd Iau, 27 Rhagfyr 2007.
Y sgwrs yn gyflawn rhwng Meg Elis a Sian Thomas
Y chwe llyfr a ddewisodd oedd:
Wrth Fy Nagrau I gan Angharad Tomos.
Dywedodd mai dawn fawr Angharad yw bod ei llyfrau hi i gyd yn wahanol "a fedrwch chi byth ddweud fod hwn yr un fath a'r un cynt".
Nofel am yr iselder y mae mamau yn ei brofi weithiau yn dilyn esgor plentyn yw ei hun ddiweddaraf.
"Mae'n trin y pwnc yn sensitif iawn ond mae yna lot o ddoniolwch hefyd a lot sy'n gwneud i bobl deimlo a meddwl," meddai gan ganmol ei dewrder yn trin pwnc nad yw'n un hawdd ei drin.
Rhodd Mam gan Annes Payne.
Cyfrol y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mi wnes i fwynhau Rhodd Mam oherwydd ei bod wedi ei sgrifennu o safbwynt plentyn. Mi fyddai'n teimlo weithiau fod syrffed o hynny ond mae hwn yn un o'r goreuon," meddai.
"Byd plentyn heb fod yn sentimental."
Mr Cassini gan Lloyd Jones.
Cyfrol fuddugol Saesneg Llyfr y Flwyddyn gan awdur sy'n Gymro Cymraeg.
"Llyfr Saesneg ond un sy'n cyffwrdd â nifer o bethau y byddai darllenwyr Cymraeg yn gyfarwydd â hwy," meddai gan ychwanegu iddi gael gwedd newydd ar lawer o bethau trwy ei ddarllen.
Lili Dan yr Eira gan Meinir Pierce Jones.
Nofel sy'n "gyfoes ac yn trin themâu dipyn bach yn anodd - etifeddu cartref ar ôl i dad farw . . . ond mae'n trin yn arbennig o dda."
Y Gemydd gan Caryl Lewis
Yn wahanol a chyda mwy o haenau na Martha Jac a Sianco.
"Ac mae gennych chi difodiaeth ardderchog sydd yn un o ogoniannau y ffordd y mae Caryl yn sgrifennu," meddai.
The Time Travelers Wife gan Audrey Niffenegger
Er yn syniad anodd cael gafael arno mae'n gyfuniad o nofel serch a ditectif.
"Yn glyfar iawn ond y clyfrwch ddim yn cael ei wthio i'ch wyneb."
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|