 |
Alun yr Arth a'r Gêm Fawr Alun yn Stadiwm y Mileniwm
Adolygiad Anna-Marie Robinson Alun yr Arth a'r Gêm Fawr - stori a lluniau gan Morgan Tomos. Y Lolfa, £2.95
Dyma'r ddiweddaraf yng nghyfres boblogaidd iawn Alun yr Arth, sydd yn cael ei hun mewn pob math o drybini.
Rydym yn hoff iawn o straeon Alun yn ein tŷ ni oherwydd bod ei anturiaethau yn aml iawn yn adlewyrchu drygioni plant bach.
Y tro hwn, mae mam a dad yn mynd ag Alun i weld tîm Cymru'n chwarae rygbi yn Stadiwm y Mileniwm - ond mae'r holl gyffro yn ysgogi Alun i geisio ymuno â'r gêm. Ac mae'n sgorio cais..... i'r tîm arall!
Dydy Alun ddim yn boblogaidd iawn, nes i Gymru golli chwaraewr oherwydd anaf - a gofyn iddo ymuno a'r tîm a rhoi cyfle arall iddo brofi ei hun ar y cae.
Ychwanegiad gwerth ei gael at weddill y gyfres.
Gweler Gwales Cliciwch
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|