 |
Y Tŷ ar Lôn Glasgoed I ddysgwyr yn bennaf
Adolygiad Lowri Rees o Y Tŷ ar Lôn Glasgoed gan Sonia Edwards. Cyfres y Golau Gwyrdd. Lolfa. £3.95.
Nofel wedi ei sgrifennu'n benodol ar gyfer dysgwyr Cymraeg yw un ddiweddaraf Sonia Edwards.
Gyda mwy a mwy o alw am gyfleon i ddysgwyr ddarllen Cymraeg, mae'r Lolfa'n cyhoeddi cyfres newydd o nofelau yn arbennig ar gyfer dysgwyr.
Nod Cyfres y Golau Gwyrdd ydi annog dysgwyr i ddarllen ffuglen Gymraeg trwy ddarparu nofelau byrion, difyr, wedi eu sgrifennu gan awduron safonol.
Ar ymyl pob tudalen mae geirfa Saesneg-Cymraeg.
Y gyntaf Nofel Sonia Edwards - prif lenor Eisteddfod Genedlaethol 1999 - Y Tŷ ar Lôn Glasgoed yw'r gyntaf yn y gyfres.
Nofel yw am ferch ifanc, Gwawr, sydd wedi ei thynnu a'r gyfeilion gan ei ffrind, Sam.
Darllen y nofel i bwrpas adolygu a wnes i - a chael fy hun yn ei mwynhau yn fawr gyda stori wych yn cadw fy niddordeb.
Go brin fod angen ychwanegu ei bod mewn Cymraeg graenus ond syml a fydd yn anogi dysgwyr i'w ddarllen.
Mae gwaith Sonia Edwards wedi fy nghyffroi i ers blynyddoedd a rwy'n hynod o falch bod yna gyfle yn awr i ddysgwyr Cymraeg gael rhannu'r pleser.
Yn nofel 70 dalen ni fydd yn ormod o dreth ar ddysgwyr ond yn sicrhau ar yr un pryd y byddant yn cael blas ar y Gymraeg ar ei gorau.
Mae'n ymwneud â phobl ifainc a chyffuriau.
Darganfod corff Wedi i Gwawr a Sam ddarganfod corff merch sydd wedi ei llofruddio yn y tŷ mae meddwl Gwawr yn cael ei feddiannu gan ysbryd y ferch.
Mae'n stori afaelgar iawn yn clymu cyfeillgarwch, cyffuriau a'r byd ysbrydol.
Nofel wych gwerth ei darllen - hyd yn oed os nad ydych yn ddysgwr!!
Adolygiad ar Gwales Cliciwch
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|