 |
T Llew Jones - cyfrinach storiwr Dywed un o'n hawduron mwyaf blaenllaw mai "darllen, darllen a darllen" yw'r brentisiaeth orau ar gyfer bod yn awdur llwyddiannus.
Yr oedd T Llew Jones yn siarad gyda phlant yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
"Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn yn darllen, darllen, darllen ac yn mwynhau ysgrifennu, dyna lle roedd fy nghryfder i," meddai.
Roedd mam-gu hefyd yn mwynhau dweud stori ac rwy'n cofio gwrando arni hithau, a'r hen bobl oedd yn dod i'r tŷ ac yn adrodd storïau celwydd golau.
"Doedd dim adloniant pryd hynny, a phrin bod llawer o olau gyda ni. Byddai pawb yn eistedd o gwmpas y tân yn siarad ac yn adrodd storis.," ychwanegodd.
Cliciwch am fwy o wybodaeth a lluniau
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|