 |
Olwynion Twm Twrch Stori newydd wedi degawd o'r golwg
Gan mai diddordebau pennaf Richard Llwyd Edwards ydi gyrru motobeics ac arlunio nid yw'n syndod mai stori luniau yn ymwneud â beicio yw ei lyfr cyntaf.
Yn Olwynion Twm Twrch gan yr artist o Gorris Uchaf mae twrch daear hoffus yn swnian a swnian am olwynion i'w gario o gwmpas fel holl anifeiliaid eraill y fferm.
Daw o hyd i hen fotobeic yn y llyn a chyda help yr anifeiliaid eraill mae'n ei adfer i'w hen ogoniant a rasio o gwmpas yr ardal mewn steil.
Dilyniant i'r gyfrol llun a stori Ble Mae Twm Twrch? a gyhoeddwyd dros ddeng mlynedd yn ôl yw Olwynion Twm Twrch ac yn cynnwys dros bymtheg o luniau mawr lliwgar.
"Mae'n gyfrol addas dros ben i riant neu athro ei ddarllen i blant bach, gan roi cyfle iddynt chwilio am Twm Twrch a'r pry copyn ym mhob llun a dod i adnabod holl anifeiliaid y fferm," meddai llefarydd o'r Lolfa.
Mae Richard Llwyd Edwards yn dad i bump o blant ac yn bennaeth Adran Gelf Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth.
Cyhoeddir Olwynion Twm Twrch Awst 23. Ei bris fydd £3.95.
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|