
 |
 |
Cyfoeth o Benfro
Adolygiad o
Estyn yr Haul
Hefyd:
Rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau
Dydd Iau, Medi 7, 2000
|
I fynd yn syth i'r rhestr o lyfrau newydd
cliciwch
yma
Adolygiad o Estyn yr Haul
Golygydd: Eirwyn George
Y mae Sir Benfro yn sir gyfoethog ei llên.
Magodd nifer dda o feirdd sy’n enwau cyfarwydd. O gofio mai mewn
llai na hanner y sir y siaredir Cymraeg mae ei chyfraniad i farddoniaeth
Gymraeg yn sylweddol. Er hynny nid bob amser y cofir am gyfraniad
sgrifenwyr rhyddiaith y sir hardd ac amrywiol hon.
Casgliad o ryddiaith gan blant y sir - a rhai fu yno’n byw yno am
gyfnodau - yw’r gyfrol Estyn yr Haul a olygwyd gan
y prifardd Eirwyn George.
Cyfraniad gwybodus a gwerthfawr
Mae ei ragymadrodd ef yn gyfraniad gwybodus sy’n bwrw golwg gwerthfawr
dros draddodiad llenyddol y sir - y cysylltiadau â’r Mabinogi, Bucheddau’r
Saint, Gerallt Gymro - sy’n codi awydd am wybod a darllen mwy.
Mae’n sir gyfoethog ym maes llên gwerin, hefyd.
Syndod canfod i Edgar Phillips (Trefîn) ddarlledu, o bryd
i’w gilydd, 50 o sgyrsiau radio am gannwyll corff. Trueni na fu
modd cynnwys cyfraniad gan Trefîn yn y gyfrol.
Tafodiaith swynol
Mae hefyd yn sir ag iddi dafodiaith swynol ac eithafol, er i Eirwyn
George yn osgoi unrhyw demtasiwn i gynnwys yr un stori na’r un ysgrif
dafodieithol yn y gyfrol.
Dyma sir fawr y straeon celwydd golau ac y mae enwau fel
Shemi Wâd a Daniel y Pant yn dal yn fyw ar gof yr
hen a’r ifanc - er na cheir yr un enghraifft o’r math yna o stori
yn y gyfrol ’chwaith.
Daw teitl y gyfrol o un o gerddi nodedig Waldo Williams,
"Preseli" lle mae’n sôn am dyddynwyr bro ei febyd yn "estyn
yr haul i’r plant" ym mhob tywydd.
Ie, y Preseli - "darn o wlad iawn at dyfu gwerinwr"
fel y dywed T. E. Nicholas yn y darn o’i atgofion am Pentregalar.
Niclas (1878 - 1971) yw’r "hynaf" o’r cyfranwyr. Ceir ganddo
atgofion am oes pan anfonid Saeson i "addysgu" yn ysgolion cynradd
gwlad oedd yn uniaith Gymraeg.
Ddysgodd Niclas ddim yn yr ysgol nes ei fod yn 12 oed, meddai -
ond cafodd addysg a diwylliant ar aelwyd Y Llety.
Yno y cafodd y pleser o glywed ei dad yn darllen pregethau, barddoniaeth
Mynyddog a Baner ac Amserau Cymru i deulu astud.
Dau Ddyn Dwad
Dyn dwad oedd Dewi Emrys - fe’i ganed yng Nghei Newydd -
ond â Sir Benfro a Phencaer y cysylltir ei enw. Yno, uwchben Pwllderi,
y saif ei gofeb.
Mewn cyfrol ddarllenadwy o Ysgrifau a gyhoeddwyd yn 1937 yr ymddangosodd
cyfraniad Dewi i Estyn yr Haul. Ysgrif, sydd hefyd yn dipyn
o stori, yw "Jac".
Doniol, annwyl am y ci aeth i bob math o drafferthion i fynd i oedfa
fore Sul.
Dyn dwad oedd D. J. Williams hefyd, ond D.J. Abergweun oedd
e i bawb o’i gydnabod. Yr oedd yn feistr ar y stori fer a chynhwysir
un o’i gampweithiau yn y gyfrol.
Mae i’r gyfrol sawl cyfraniad sy’n cysylltu â’i gilydd.
Mae atgofion Dillwyn Miles o D.J. fel athro Saesneg ysbrydoledig
a charedig ond parod i estyn bonclust i ddisgybl anystywallt yn
ddadlennol a diddorol.
Ceir portread o hen ffarier o Geredigion gan Emrys Rees,
un arall a ymsefydlodd yn Abergwaun er yn enedigol o Sir Aberteifi.
Portread cyhyrog a hwyliog.
Mae yma stori gan Waldo Williams, er bydd sawl un yn cael
ei arwain i gredu ei fod llawer gwell bardd nag o awdur storiau.
Ac yn awr dyma restr Cyngor
Llyfrau Cymru o'r cyfrolau diweddaraf i gyrraedd y siopau.
LLYFRAU CYMRAEG A DWYIEITHOG
A 'BOOK OF MAD CELTS': Marion Löffler 1859028969 Gwasg Gomer
£7.95 Llyfr dwyieithog yn adrodd hanes John Wickens a Chyngres Geltaidd
Caernarfon 1904.
BYGI-BYTIS: FY LLIWIAU: 1855964449 Dref Wen £2.99 Llyfr gair-a-llun
i blant dan 5 oed i'w gysylltu wrth fygi.
BYGI-BYTIS: FY RHIFAU: 1855964430 Dref Wen £2.99 Llyfr gair-a-llun
i blant dan 5 oed i'w gysylltu wrth fygi.
CERDDI CWRS Y BYD: Wynne Ellis 1900437406 Cyhoeddiadau Barddas
£7.95 Cyfrol o gerddi dychanol am fyd y beirdd.
CERDDI'R TROAD - BARDDONIAETH NEWYDD I'R MILENIWM: Gol. Dafydd
Rowlands 1859028179 Gwasg Gomer £7.95 Cerddi gwreiddiol gan feirdd
cyfoes wedi eu hysgrifennu i ddathlu'r mileniwm.
CEWRI CAMPAU CYMRU: Gol. Alun Wyn Bevan 1859028217 Gwasg
Gomer £8.95 Llyfr yn llawn lluniau a hanesion am enwogion byd chwaraeon
yng Nghymru.
COFIO HANNER CANRIF - HANES MUDIAD EFENGYLAIDD CYMRU 1948-98:
Noel Gibbard 1850491739 Gwasg Bryntirion Press £9.95 Cyfrol yn dathlu
hanner can mlynedd o'r Mudiad Efengylaidd yng Nghymru.
CUR Y NOS: Geraint V. Jones 0863816495 Gwasg Carreg Gwalch £7.00
Nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Llanelli 2000.
CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU LLANELLI 2000:
0953855406 Llys yr Eisteddfod (De) £4.50 Cynnyrch llenyddol buddugol
a beirniadaethau'r Eisteddfod.
CYFRES BARA'R BYWYD: 36. EFENGYL IOAN: Edmund Owen 1850491720
Gwasg Bryntirion £1.95 Esboniad byr, syml ar gyfer pob dydd o'r
mis.
CYFRES CELF CYMRU 2000: ANEURIN: Gol. Emyr Llywelyn 086243534X
Y Lolfa £19.95 Llyfr o waith Aneurin Jones.
CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: ANTHEM GENEDLAETHOL, YR / THE
NATIONAL ANTHEM: Aeres Twigg 1859028853 Gwasg Gomer £1.95 Hanes
yr Anthem Genedlaethol, gyda nifer o luniau lliw. Llyfr dwyieithog.
CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: DDRAIG GOCH, Y / THE RED
DRAGON: Aeres Twigg 1859028861 Gwasg Gomer £1.95 Hanes cefndir
mabwysiadu'r ddraig goch yn symbol cenedlaethol. Llyfr dwyieithog.
CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: SOSBAN FACH: Aeres Twigg
185902887X Gwasg Gomer £1.95 Hanes y gân rygbi enwog. Llyfr dwyieithog.
CYFRES LLYFFANTOD: VIVA CYMRO!: Meinir Pierce Jones Darl. Elwyn
Ioan 185902713X Gwasg Gomer £4.95 Stori wedi'i gosod yn yr Eisteddfod
Genedlaethol am ferch ifanc o Batagonia.
CYFRES Y CYMOEDD: CWM GWENDRAETH: Gol. Hywel Teifi Edwards
1859028918 Gwasg Gomer £13.95 Cyfrol yn olrhain hanes y cwm lle
cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2000.
ELFED - CAWR AR GOESAU BYR: Ioan Roberts 0862435277 Y Lolfa
£5.95 Cyfrol goffa i Elfed Lewis y baledwr.
FFRINDIAU: Rob Lewis Addas. Helen Emanuel Davies 1859028578
Gwasg Gomer £5.50 Llyfr lliw-llawn yn adrodd stori am ffrindiau;
ar gyfer plant dan 7 oed.
GYDA'R GODRE: Tecwyn Ellis 0000870684 Tecwyn Ellis £7.50
Atgofion yr awdur, sydd yn hanu o’r Bala.
IESU'R IDDEW A CHYMRU 2000: Pryderi Llwyd Jones 0862435439
Y Lolfa £6.95 Cyfrol gan weinidog adnabyddus, yn cyflwyno Iesu i
ni heddiw.
Y LLAFN GOLAU: Vernon Jones 185902873X Gwasg Gomer £4.95 Cyfrol
o gerddi newydd, teimladwy gan y bardd o ardal Aberystwyth.
LLYFRAU LLAFAR GWLAD:46. 'FYL'NA WEDEN I’: Huw Evans, Marian
Davies 0863816304 Gwasg Carreg Gwalch £4.25 Blas ar dafodiaith canolbarth
Ceredigion.
NEWID AELWYD - LLYFR 5 O HELYNTION TOMOS A MARGED: W.J. Gruffydd
Darl. Tegwyn Jones 1859028276 Gwasg Gomer £4.95 Straeon am y cymeriadau
poblogaidd oddi ar y gyfres ar Radio Cymru.
NOFELAU NAWR: CADWYN O FLODAU: Sonia Edwards 1859028632 Gwasg
Gomer £3.50 Nofel i ddysgwyr am Lia, sydd wedi ei chaethiwo mewn
priodas anhapus.
O HENDREFIGILLT I LIVORNO: T. Gwynfor Griffith 1859028195
Gwasg Gomer £9.95 Hanes Llewelyn Lloyd, un o artistiaid pwysicaf
Cymru a'r Eidal.
OWAIN A'R ROBOT: Ian Whybrow Addas. Emily Huws Darl. Adrian
Reynolds 1859028594 Gwasg Gomer £4.50 Stori ddifyr i blant dan 7
oed.
PAWB GYDA'I GILYDD: Rob Lewis Addas. Helen Emanuel Davies
1859028586 Gwasg Gomer £5.50 Llyfr lliw-llawn yn adrodd stori; ar
gyfer plant dan 7 oed.
RHUBAN GLAS, Y - GWOBR GOFFA DAVID ELLIS 1943-2000: R. Alun
Evans 1859028942 Llys yr Eisteddfod (De) £4.95 Hanes y Rhuban Glas,
a nodiadau ar bob un a’i enillodd rhwng 1943 a 2000.
RHUBANAU DUR / RIBBONS OF STEEL: Jon Dressel, T. James Jones
1859028896 Gwasg Gomer £5.00 Cerdd wedi'i hysgrifennu ar y cyd gan
y ddau fardd i ddathlu Eisteddfod Llanelli.
STORÏAU'R TROAD - RHYDDIAITH NEWYDD I'R MILENIWM: Gol. Manon
Rhys 1859028039 Gwasg Gomer £9.95 Deunaw o storïau byrion gan awduron
cyfoes yn trafod dathlu'r mileniwm.
SWS I SEREN: Phyllis Root Addas. Meinir Pierce Jones Darl.
Will Hillenbrand 1859028810 Gwasg Gomer £5.50 Rhaid i Cadi Mai roi
sws i Seren y fuwch hud i ddiolch am ei llaeth melys.
TRI MOCHYN BACH: Eirug Wyn 0862435536 Y Lolfa £5.95 Cyfrol
y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU
THE ADVENTURES OF A ROMANTIC: Bernard Jay 1873827504 Logaston
Press £9.95 Stori am y gwrthgyferbyniad rhwng henoed ac ieuenctid,
ffantasi a realiti.
CELTIC POETS, THE - SONGS AND TALES FROM EARLY IRELAND AND WALES:
Trans. Patrick K. Ford 0926689053 Ford & Bailie, Publishers £15.00
Casgliad o gerddi o'r Canol Oesoedd, gyda chyfieithiadau.
CELTIC TRAIL, THE - WEST - SWANSEA TO FISHGUARD / LÔN GELTAIDD
- GORLLEWIN - ABERTAWE I ABERGWAUN: 1901389138 Automobile Association
£5.99 Map ac arweinlyfr i'r lôn feiciau o Abertawe i Abergwaun.
LITTLE BLUE GROWS UP - A STORY FROM DRAGON KINGDOM: Sandra Alich
Storr Ill. Oliver Mundy 0953878503 Preserves and Books £4.95 Stori
am deulu o ddreigiau sydd yn byw ar fwyd dreigiau hudol iachus iawn!
GRACE, GRIT AND GUMPTION - SPIRITUAL REVIVAL IN SOUTH WALES:
Geraint Fielder 1857925009 Gwasg Bryntirion Press £6.99 Hanes
John Pugh, Seth Joshua a Frank Joshua.
HOPPERS SERIES: LOOKING FOR CYMRO: Meinir Pierce Jones Trans.
Ann Saer Ill. Elwyn Ioan 1859027628 Pont Books £4.95 Stori wedi'i
gosod yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ferch ifanc o Batagonia.
THE LABOUR PARTY IN WALES 1900-2000: Eds. Duncan Tanner,
Chris Williams, Deian Hopkin 0708315860 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00
Cyfrol ar hanes y Blaid Lafur yng Nghymru, ar achlysur ei chanmlwyddiant.
MORE WALKS ON THE CLWYDIAN HILLS: David Berry 1902302109 Kittiwake
£3.95 Pymtheg o deithiau cerdded yn ardal Bryniau Clwyd.
REJOICE IN YOUR OWN WORKS: Ange S. Vlachos Trans. John Fitzgerald
Ill. Paul S. Vlachos 1898685312 Philomel Productions Limited £9.99
Cyfrol o fyfyrdodau mewn pump o ieithoedd gwahanol.
REMINISCENCES OF WALES 1924-1942: Nathan Hughes 0970315406 Welsh
Dragon Publishing £15.00 Atgofion yr awdur, sydd bellach yn byw
yn yr Unol Daleithiau.
WELSH CASTLES - A GUIDE BY COUNTIES: Adrian Pettifer 0851157785
Boydell and Brewer £25.00 Arweinlyfr i gestyll Cymru fesul sir,
gyda hanes byr pob un.
THE WELSH SALE: 0000873012 Sotheby's £2.00 Manylion yr eitemau
a werthwyd mewn ocsiwn ym Mharc Margam, 19 Hydref 1999.
WILD BRITAIN - A TRAVELLER'S GUIDE: Douglas Botting 1873329318
Sheldrake Press £12.50 Arweinlyfr yn cynnwys lluniau lliw-llawn,
diagramau a mapiau.
WOMEN AND GENDER IN EARLY MODERN WALES: Eds. Michael Roberts,
Simone Clarke 070831550X Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Cyfrol yn
trafod profiadau cymdeithasol a diwylliannol merched yng Nghymru.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd
Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau
o'ch dewis chi, cliciwch ar logo
gwales
|
 |

|