
 |
 |
Apêl
at hanes
Mae
Hanes yn fwy na brenhinoedd, dyddiadau a ffeithiau sychion meddai
hanesydd.
Dydd Iau, Mawrth 30, 2000
|
Y
mae Hanes yn fwy na brenhinoedd, hen gestyll, dyddiadau a ffeithiau
sychion.
Felly, y mae gan haneswyr ac amgueddfeydd ddyletswydd i adlewyrchu
hynny meddai un o haneswyr mwyaf blaenllaw Cymru mewn llyfr y mae
newydd ei gyhoeddi.
Y mae arwyddocad arbennig i’r is-bennawd, Côr o Leisiau, i
gasgliad Glanmor Williams o ysgrifau Cymru a’r Gorffennol.
Ymuno a'i gilydd
Achos nid un llais yn siarad a ni o’r gorffennol yw Hanes ond cymysgedd
- côr - o wahanol leisiau yn ymuno a’i gilydd i gyfleu un darlun cyfansawdd.
Yn llawer rhy aml y mae’r gair Hanes, meddai Glanmor Williams,
yn "awgrymu hanes brenhinoedd a’r bendefigaeth, rhyfel a chynghreirio,
llywodraeth a deddf, castell ac abaty, plasty ac eglwys plwyf; yn
fyr, gwleidyddiaeth a diddordebau’r llywodraethwyr a’r dosbarthiadau
uchaf."
Ond ychwanega mewn darlith a draddododd adeg trichwarter canmlwyddiant
Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1982:
"Tueddir i gynnig darlun unochrog, yn rhannol o ganlyniad i darddiad
aristocrataidd hanes fel astudiaeth."
Eang ac amryliw
Ond prysura i ddweud fod yn rhaid i hanes o’i astudio a’i ddysgu y
ffordd iawn "gydnabod fod mantell ddi-wniad y gorffennol yn rhywbeth
llawer mwy eang ac amryliw."
Y mae yn cynnwys "pob agwedd ar fywyd dynion, a'r newidiadau
a achoswyd ganddynt a’r modd y newidwyd hwythau: gorffennol Cymru
yn ei gyfanrwydd . . . rhaid wrth gorws cyfan o leisiau, yn cydasio,
os yw’r gorffennol hwnnw i’w gyflwyno’n llwyddiannus."
Un o ganlyniadau hyn yw fod yn rhaid i’r hanesydd fod a diddordebau
eang oherwydd gan fod cymaint o wahanol agweddau i un testun.
Er enghraifft y mae’n son yn benodol am ei ran ef ei hun yn astudio
hanes yr Eglwys yng Nghymru.
"Er mwyn darlunio'r Eglwys fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru
ac yn Ewrop gydag unrhyw fath o argyhoeddiad, rhaid oedd edrych y
tu hwnt i astudiaethau a ffynonellau hanesyddol confensiynol," meddai
.
Oherwydd bod yr eglwys yn dirfeddiannwr rhaid oedd ei hystyried o
safbwynt economaidd; wedyn o safbwynt bensaerniol a chelfyddydol oherwydd
ei hadeiladau ac o safbwynt lenyddol a chrefyddol hefyd oherwydd ei
gweithgarwch arall.
Canmol yr amgueddfa
Yr un dyletswydd sy’n wynebu amgueddfeydd ac y mae Glanmor Williams
yn canmol cyfraniad Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn hynny o beth gan
dynnu sylw arbennig at yr Amgueddfa Diwydiant a Môr a’r Amgueddfa
Werin yn Sain Ffagan yn ehangu’r gorwelion arferol.
Er, mi ddywedwn i, mai chwip dîn yn fwy na churo cefn y mae’r
amgueddfa yn ei haeddu parthed yr Amgueddfa Diwydiant a Môr.
Bu’r ffordd y cafodd ei thrafod gan awdurdodau’r Amgueddfa yn destun
ymchwiliad ac adroddiad seneddol hynod feirniadol ac, wrth gwrs, fe
gollwyd cartref yr amgueddfa arloesol honno ers traethu'r ddarlith
hon. Fe ddylid fod wedi cynnwys troednodyn yn y gyfrol yn tynnu sylw
at yr anfadwaith hwnnw.
Y mae arwyddocad arbennig, felly, i sylw Glanmor Williams ynglyn â
swyddogaeth a dyletswydd amgueddfeydd yn gyffredinol ac mae'n werth
ei ailadrodd yn sgil anfelystra a blerwch yr hyn ddigwyddodd gyda'r
Amgueddfa Ddiwydiant a Môr hynod;
"Nid cyflwyno gwrthrychau materol yw unig waith nac ychwaith brif
waith amgueddfa, eithr cyflwyno syniadau: syniadau a fydd yn penderfynu
pa wrthrychau a ddewisir er mwyn eu defnyddio i esbonio a darlunio’r
gorffennol a’r presennol . . .
" Ennill dealltwriaeth fwy cyflawn a chyson o hyn fu o bwys ac
sydd o bwys i bobl Cymru yw’n nod y mae’n rhaid i’r Amgueddfa ei gosod
iddi ei hun. . . Mae arwain côr o leisiau y tu mewn i’r Amgueddfa
a’r tu allan iddi, mewn cytgord perffaith, er mwyn cyflwyno gorffennol
Cymru, yn gyfrifoldeb arswydus," rhybuddia.
Mae cwestiwn a ysgwyddwyd y cyfrifoldeb hwnnw yn llawn er na thrafodir
hynny yma
Cymru’r Gorffennol - Côr o Leisiau, gan Glanmor Williams. Gwasg
Gomer £14.95 . Mae’r gyfrol yn cynnyws hefyd ysgrifau ar: Proffwydoliaeth,
Prydyddiaeth a Pholitics yn yr Oesoedd Canol; Harri Tudur; y Deddfau
Uno; Cyfieithiadau Beiblaidd; y Diwygiad Protestannaidd; Yr Esgob
William Morgan; John Penry; Etholiadau Seneddol; R. T. Jenkins; Cofio
Dowlais - tref enedigol yr awdur.
|
 |

|